Wythnos iechyd meddwl, Ar draws y byd. Dathlu gobaith yn y tywyllwch, Diwrnodau i uno ar y cyd.
Gan gyrraedd y cyfnod yma, Yr arholiadau yn agosáu, Dim ots y canlyniadau, Mae bywyd dal i barhau.
Blwyddyn yn ôl roedd bywyd yn parhau, tra o’n i dal i grio. Neb wir yn sylwi, faint o’n i’n trio.
Dwi ond yn gofyn I fod yn iawn. Am ddiwrnod heb boeni, A lle di’r ymennydd ddim yn llawn.
Dim digon o “likes” Dim digon o sylwadau, Pryd ‘di’r amser i agor ein llygadau?