Anxiety a fi
Rhybudd cynnwys: bwyd a phwysau, meddyliau hunanladdol
Edrych yn ôl ar bethau nawr fi’n siŵr bod yr anxiety yma wedi bodoli fel rhan o fi erioed. Rwy’n cofio pan o’n i’n ifancach ac roeddwn yn mynd mas e.e i gael bwyd neu mynd i ffwrdd ar wylie, o’n i bob amser yn “gwitho hunan fi lan” fel o’n i’n galw fe.
Ar y pryd nid oeddwn wedi meddwl lot amdano fe. O’n i’n meddwl odd e’n rhywbeth bod pawb yn profi, rhywbeth cyffredin. Nath yr anxiety sort of marw mas wedyn am ychydig a ges i cwpwl o flynydde le sai’n rili cofio teimlo fel o’n i’n “gwitho hunan fi lan”. Ond dechreuodd y teimladau yma ail-ymddangosodd tua gwylie Pasg pan ro’n i’n blwyddyn 9.
Sai’n rili siwr pam ail-ymddangosodd y teimladau ond dyna pryd nath popeth dechre mynd down hill fel petai. Nes i brofi cyfnod anodd wedyn am tua dwy flynedd. Just “gwitho hunan fi lan” am bopeth. O’n i’n dechrau gwrthod mynd i gwrdda ffrindie achos odd e’n cynhyrfu fi gormod. Sai’n siŵr beth oedd y rheswm penodol pam ond odd yr anxiety yma yn fy ofni.
Odd da fi sboner ar y pryd a ma rhaid i fi weud odd e’n absolutely amazing gyda fi. Gwrando arno fi a gwthio fi i neud pethe er mwyn goresgyn y gorbryder. Ond yn anffodus nath pethe ddim gweithio mas rhyngddo ni. Roedd yn gyfnod anodd iawn i’r ddau ohonom ond roedd yn rhywbeth roedd rhaid i fi wynebu fy hun. Fi a’r anxiety ma. Ond roedd yr anxiety hyn wir yn dechrau cael fi lawr ac yn cael effaith corfforol gwael arno fi.
O’n i’n gwitho hunan fi lan am bob digwyddiad nes o’n i’n mynd i deimlo mor sick o’n i ffaelu byta.
Odd bwyd jyst yn troi arnai. Nath hyn achosi i fi golli llawer o bwysau achos o’n i mwy neu lai yn teimlo ‘on edge’ trwy’r dydd ac felly yn ei weld yn anodd tu hwnt i fwyta unrhyw beth. Erbyn hyn fe wnes i benderfynu bod angen help proffesiynol arnai i ymdopi da’r holl deimladau yma oherwydd roedd yn hynod o draining, ac roedd yr anxiety yma yn cymryd dros fy mywyd. Felly fe es i i’r GP ac anfonwyd fi i’r gwasanaeth CAMHS.
Ar ôl iddynt wneud profion ar fy nghorff wedyn darganfyddwyd fy mod dan bwysau yn ofnadwy oherwydd roeddwn yn ei weld yn anodd i fwyta o ganlyniad i’r anxiety yma. Cefais fy rhoi ar ddeiet sbesial wedyn er mwyn codi fy mhwysau oherwydd os fydden i’n colli mwy o bwysau bydde fe’n cael effaith gwael ar fy iechyd yn y byr a hir dymor. O’n i mor ofnus erbyn hyn, dwi’n cofio nhw’n dweud os na fydden i yn rhoi pwyse arno yn weddol bydd yn rhaid iddynt gadw fi adref o’r ysgol gan na fydden i’n ddigon iach i fynychu. Cefais ofn mawr ar ôl clywed hwn a felly fe wnes i ddechrau gweithio yn hynod o galed er mwyn codi fy mhwysau.
Daethom i benderfyniad wedyn ei fod yn syniad da fy mod yn derbyn ychydig o gymorth ‘CBT’ er mwyn goresgyn yr anxiety yma gan ei fod yn fy rhwystro rhag gwneud pethau bob dydd e.e mynd allan am fwyd a mynychu’r ysgol. Treuliais gyfnod o ddwy flynedd gyda’r doctor.
Rhaid i mi ddweud dyma’r ddwy flynedd mwya anodd o fy mywyd.
Roedd rhai cyfnodau da lle roeddwn yn teimlo bod yr anxiety yn lleihau ond yn ystod cyfnodau eraill nid oeddwn yn gwybod sut fyddai modd i mi gyflawni’r diwrnod. Yr amser gwaetha yn ystod y ddwy flynedd yma rwy’n credu yw’r haf pan roeddwn yn blwyddyn 11. O’n i di gorffen fy arholiadau i gyd a dylen i di bod yn hapus bod gyda fi 6 wythnos ychwanegol o wylie. Ond odd pethe ddim yn iawn. Diwrnodau ar ôl diwedd yr arholiad olaf nid oeddwn yn siŵr beth i wneud â fy hun. O’n i ar goll yn gyfan gwbl, odd dim byd o gwbl da fi i fecso amdano. Odd yr arholiadau wedi mynd ac o’n i di dechrau ‘gweithio hunan fi lan’ eto a gorfeddwl popeth gan nad oedd dim byd penodol gennyf i feddwl a becso am.
Fi’n cofio jyst cerdded lan a lawr corridor y tŷ achos o’n i ddim yn siŵr beth i neud â fy hun ac o’n i just ffaelu stopio meddwl. Cefais rhai meddyliau hynod o anghyfforddus. Aeth fy mwyta yn broblem eto wedyn a dechreuais fecso am fy mhwyse achos o’n i methu fforddio colli pwyse. Ond y fwyaf o’n i’n trial bwyta a rhoi pwyse arno y mwya o’n i just methu ei wneud. O’n i’n mess llwyr.
O’n i’n gwrthod mynd mas i gwrdda ffrindie, o’n i’n llefen bob dydd, methu cysgu, methu bwyta ac o’n i just ishe bod yn fy ystafell ar ben fy hun.
Y deg diwrnod ar ein gwylie yn Croatia oedd yr amser gwaethaf rwy erioed wedi profi. O’n i ddim ishe mynd. O’n i just ishe bod ar ben fy hun yn y tŷ ond nath mam a dad orfodi i mi fynd. Roedd yn uffern. O’n i on edge 24/7 ac wedi cynhyrfu. Nid oeddwn yn gallu ymlacio a ‘switcho off’ y meddyliau fel petai. O achos hyn o’n i braidd yn bwyta, o’n i’n sâl bob bore ac o’n i ddim ishe gwneud dim byd. Fi’n cofio jyst trial darllen llyfr trwy’r amser achos o’n i ddim ishe bod yn fy mhen fy hun. Roedd popeth yn ormod.
O’n i ddim ishe mynd mewn i’r pwll a chwarae gyda fy chwaer ifancaf a oedd yn rhywbeth roeddwn fel arfer yn gwneud ar wylie. Roedd yn brofiad hynod o dorcalonnus i mam, dad a fy chwaer oherwydd roedden nhw just yn gweld fi mewn stad yn crynu, gwrthod bwyta a llefen trwy’r amser. O’n i mor drist ond ar yr un pryd nid oeddwn yn siŵr siwd oeddwn yn mynd i wella. Nid oeddwn yn gweld y golau, dim ond pwll mawr o dduwch.
Tua yr amser yma wedyn fe wnes i ddechrau cwestiynu beth oedd pwrpas fy mywyd.
Os mai fel hyn oedd fy mywyd yn mynd i fod, nid oeddwn ei eisiau. Fi’n cofio y diwrnod roeddwn yn hedfan adref. O’n i mor upset bo fi’n gorfod dod nol i realiti a fy mywyd i. O’n i ddim ishe fy mywyd i yn ôl. O’n i ddim ishe y fath bywyd hyn ddim mwy lle roeddwn ni on edge trwy’r amser a methu gwneud dim byd o achos yr anxiety ma. Odd da fi popeth e.e cyfoeth, ffrindie, teulu, ond nid oedd gennyf unrhyw beth ar yr un pryd. Roedd popeth am fy mywyd jyst yn anghywir. O’n i di colli rhagor o bwyse ac roedd nofio i arwyneb y pwll bron i weld yn amhosib erbyn hynny.
Ar ôl trafodaethau hir wedyn gyda’r doctor roeddent yn credu bod angen i mi gael tabledi ‘anti-depressants’ er mwyn rhoi help llaw i mi gyda’r gorbryder. Y gobaith odd byddai’r ‘CBT’ law yn llaw gyda’r anti-depressants yn gwneud gwahaniaeth. A wir dechreuais weld ychydig o wahaniaeth ar ôl dechrau eu cymryd. O’n i di dechre teimlo bach fwy ‘chilled out’ ac o ganlyniad nes i ddechrau bwyta yn well. Sai’n siŵr achos o’n i nol ‘in my home space’ fel petai neu lawr i’r tabledi i gyd oedd popeth.
Des i i sylweddoli wedyn er mwyn gwella roedd rhaid i fi wthio fy hun a dod wyneb yn wyneb da’r gorbryder.
Dechreuais wthio fy hun i fynd allan gyda fy ffrindie mwy e.e bues i yn cael bwyd gyda nhw a nes i hyd yn oed (fi dal yn shocked gyda hunan fi bo fi di neud e) mynd i ddawns sioe Llandeilo. Roedd hyn yn gamau enfawr ymlaen i mi. Nid oedd yn hawdd o gwbl. O’n i mor ofnus ac odd anxiety fi ar lefel 100% ond o’n i mor browd o fy hun bo fi di gallu neud e. Ers cychwyn cymryd y tabledi fi’n teimlo fy mod wedi gwella i rhywle a mae e wedi rhoi yr hyder i mi wynebu’r gorbryder head on. Sai’n dweud ei fod wedi fy ngwella i’n gyfan gwbl achos fi dal yn cael rhai diwrnodau lle mae fy ngorbryder yn rili wael a mae yn fy nghael i i lawr. Ond mae’r tabledi wedi helpu fi i godi fy hun nol ar fy nhraed a fy nychwelyd i i’r person roeddwn arfer bod.
O’n i’n teimlo yn ystod y cyfnod caled yma bo fi di colli fy hun, fy mhersonoliaeth, fy hunaniaeth. O’n i’n teimlo fy mod ond yn lwmpyn o orbryder. Ond nawr teimlaf fy mod yn dechrau dychwelyd mwy i fi fy hun. Rwyf wedi dechrau perfformio mewn sioeau eto, mynd mas mwy da fy ffrindie a hyd yn oed mynd i bartïon gyda nhw. Fi hefyd wedi pasio fy mhrawf gyrru a oedd yn rhywbeth roeddwn i byth yn credu byse fi’n llwyddo i’w wneud.
Rwyf o’r diwedd yn teimlo’n hapus eto.
Mae hapusrwydd yn emosiwn nad ydw i wedi teimlo mewn amser hir. Rwy’n gwybod bydd yr anxiety yma byth yn fy ngadael i, ma fe’n rhan ohona i. Ond fi wedi dod i sylweddoli fy mod yn gallu ei oresgyn trwy ei wynebu. Bydd rhai diwrnodau yn anodd ond ni ddylwn adael rhain i gael fi i lawr. Rhaid i fi gofio cymryd bob diwrnod ar y tro a cofio fy mod yn gallu goresgyn unrhyw beth ond i fi drial. Credaf yn gryf yn y datganiad nid oes modd cael enfys heb gael ychydig o law.
Ffion Connick