Cysylltu ar ran y wasg yn chwilio am gyfranwyr i raglen neu erthygl…

Oherwydd y nifer o geisiadau rydyn ni’n ei dderbyn, prinder amser a’r ffaith ein bod yn fudiad gwirfoddol â phob un ohonom yn gweithio llawn amser fel arall hefyd, ni allwn fynd ati i ddarganfod siaradwyr ar ran eraill. Dyma sut allwn ni gynnig helpu:

  1. Os ydych chi’n creu neges ar Twitter neu Facebook yn chwilio am gyfranwyr, tagiwch ni ynddo. Gallwn wedyn ail-drydar/rannu’r neges ar ein tudalennau ni.
  2. Mae nifer fawr o brofiadau ar ein gwefan, a mae teclyn ‘chwilio’. Gobeithiwn felly y gallwch ddefnyddio ein gwefan er mwyn ceisio dod o hyd i unigolion sydd wedi cyfrannu mewn perthynas â chyflyrau/materion penodol.
  3. Os ydych chi’n dymuno cysylltu ag unigolyn penodol ar ôl i chi ddod ar eu traws ar ein gwefan ac nad oes modd i chi wneud hynny drwy Twitter neu gyfrwng tebyg, ni allwn rannu manylion cyswllt gyda chi am resymau cyfrinachedd ond pe baech yn anfon y neges yr hoffech i’r awdur ei weld atom ni gydag esboniad byr, byddwn yn hapus i’w anfon ymlaen atynt. Fodd bynnag, os yw’r cyfraniad sydd wedi cymryd eich sylw ar ein gwefan yn ddienw, dylid parchu hynny, ac ni fyddem yn anfon unrhyw negeseuon ymlaen at y cyfranwyr hynny.

Petaech yn llwyddo i ddod o hyd i gyfranwyr drwy’n gwefan ni yn unol â’r opsiynau uchod, byddem yn ddiolchgar iawn petai modd i chi roi cydnabyddiaeth mewn unrhyw ffordd drwy gyfeirio at y wefan.

Gobeithiwn fod yr uchod o gymorth a phob hwyl i chi wrth ddod o hyd i gyfranwyr.

Os ydych chi am gysylltu gyda ni ar ran y wasg ac eisiau siaradwr ar ran meddwl.org, mae croeso i chi gysylltu drwy e-bostio post@meddwl.org.

Gofynnwn i chi beidio â chysylltu ag aelodau o’r tîm rheoli yn bersonol. Byddem yn hapus iawn i geisio eich helpu, ond gofynnwn hefyd i chi gofio ein bod yn fudiad cwbl wirfoddol, felly ni allwn bob amser ymateb i geisiadau ar fyr rybudd.

Diolch yn fawr,
Criw meddwl.org