“Rhaid gwneud iechyd meddwl yn bwnc gorfodol mewn ysgolion” : Golwg360

Mae angen gwneud mwy mewn ysgolion yng Nghymru i atal bechgyn rhag lladd eu hunain, yn ôl y Samariaid yng Nghymru.

Yn 2017, bu farw 360 o bobol yng Nghymru o ganlyniad i hunanladdiad, gyda 77% o’r rheiny’n ddynion.

Er bod y Samariaid yng Nghymru yn croesawu’r cwricwlwm addysg newydd a fydd yn cael ei gyflwyno i ysgolion yng Nghymru cyn hir, maen nhw galw am addysg orfodol ar iechyd meddwl.

Mae angen hyn, medden nhw, er mwyn lleihau’r pwysau emosiynol ar blant a phobol ifanc ac i roi hyder i athrawon allu trafod materion sy’n ymwneud ag iechyd meddwl gyda’u disgyblion.

Darllen rhagor : Golwg360 a Samariaid Cymru


image_pdfPDFimage_printArgraffu
Rhannu

Gadael Ymateb