Elusen yn rhybuddio bod jôcs am OCD yn atal cleifion rhag chwilio am help : BBC

Mae elusen OCD UK wedi rhybuddio bod y modd ysgafn mae cymdeithas yn trin anhwylder gorfodaeth obsesiynol (OCD) yn rhwystro dioddefwyr rhag chwilio am yr help sydd ei angen arnynt yn fawr.

Mae rhai o’r 36,000 o bobl yng Nghymru gyda’r anhwylder yn dioddef ar ben eu hun oherwydd y stigma, yn ôl OCD-UK.

Yn y cyfamser, mae darlithydd seicoleg ym Mhrifysgol Caerdydd wedi galw’r cyfnod aros o 5-7 mis rhwng diagnosis a thriniaeth yn broblem fawr.

Cyflwr genetig ydyw, ac mae dioddefwyr, sy’n ofni gall rhywbeth gwael ddigwydd, yn ailadrodd ymddygiadau er mwyn profi rhyddhad – megis brwsio dannedd neu olchi dwylo.

Dywedodd Mr Fulwood (OCD UK) nad oedd yn cael ei gymryd yn ddifrifol – gan gyfeirio at gŵyn y gwnaeth i The Range, sydd â naw siop yng Nghymru, am ei slogan hysbysebu “Obsessive Cake Disorder”.

“Er ein bod yn ddiolchgar i’r adwerthwr am gydnabod y broblem a chymryd camau pendant, derbyniwyd llwyth o sylwadau dros y cyfryngau cymdeithasol,” dywedodd.

“Roedd rhai o’r sylwadau yn dweud bod angen i ni ysgafnhau a darganfod synnwyr digrifwch.

“Beth fethodd yr unigolion hyn ei weld (neu ddewis anwybyddu yn fwriadol) ydy’r ffaith bod pob jôc neu anwiredd am OCD yn bychanu difrifoldeb y cyflwr, a bod y fath stigma yn rhwystro pobl rhag chwilio am help neu siarad am eu problemau.”

Mae darlithydd seicoleg ym Mhrifysgol Caerdydd, Dr Athanasios Hassoulas, wedi treulio ei yrfa yn ymchwilio i’r cyflwr ar ôl iddo gael diagnosis o OCD tra’n ei arddegau.

Fe sylwodd ei rieni bod rhywbeth o’i le pan oedd yn 14 oed pan ddaeth yn rhwystredig a thrallodus, yn dilyn gorfod sicrhau bod y drws ar glo hyd at 50 o weithiau cyn gadael y tŷ.

Er ei fod yn dweud ei fod yn lwcus o ymateb yn gadarnhaol i driniaeth yn 16 oed, doedd eraill ddim mor ffodus.

Dywedodd Dr Hassoulas ei fod yn arferol i blant yn eu harddegau i fethu deall beth oeddent yn mynd trwyddo, ac nad oedd y wybodaeth oedd ar gael yn gywir, oedd yn arwain at deimlad o ddim eisiau siarad â’u meddyg teulu.

Mae’n galw am fwy o gymorth yn ystod y cyfnod o bump i saith wythnos sy’n bodoli rhwng diagnosis a thriniaeth.

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud eu bod wedi buddsoddi £3m yn y ddwy flynedd diwethaf mewn therapyddion seicoleg i helpu pobl gyda chyflyrau fel OCD.

Ychwanegodd llefarydd bod y rhan fwyaf o bobl gyda chyflyrau iechyd meddwl yn ymateb yn well i driniaeth yn y gymuned.

Darllen rhagor : BBC