Yr haf yn gyfnod anodd i bobl sy’n teimlo’n unig : BBC Cymru Fyw

Mae’r haf yn gallu bod yn gyfnod yr un mor anodd i’r rheiny sydd yn dioddef o unigrwydd â misoedd y gaeaf, yn ôl un arbenigwr ar y pwnc.

Dywedodd Dr Deborah Morgan o Ganolfan Heneiddio Arloesol Prifysgol Abertawe fod cyfnodau fel y Nadolig yn aml yn cael eu cysylltu â chynnydd mewn unigrwydd. Ond y gwirionedd yw bod yr haf hefyd yn gallu bod yn anodd, wrth i bobl wylio eraill yn “mwynhau eu hunain” yng nghwmni teulu a ffrindiau.

“Nid pobl sy’n byw ar eu pen eu hunain yw’r unig bobl sy’n unig. Weithiau ‘dych chi’n meddwl bod grŵp mawr o ffrindiau gyda nhw, ond safon y cyfeillgarwch yna sy’n eu gwneud nhw’n unig.”

Darllen rhagor : BBC Cymru Fyw