Effaith ddinistriol gamblo ar bobl a’u teuluoedd yng Nghymru : WalesOnline

Caiff gamblo effaith “ddinistriol” ar bobl yng Nghymru, ac mae’n rhwygo teuluoedd, yn ôl y Prif Swyddog Meddygol, Dr Frank Atherton.

Yn ei ail adroddiad blynyddol ar gyflwr iechyd y genedl, dywed Dr Atherton fod gamblo yn prysur ddod yn broblem iechyd cyhoeddus, ac mae angen gwaith ymchwil i’r broblem ar frys.

Yn ôl ffigyrau diweddar, mae 61% o oedolion yng Nghymru wedi gamblo yn y 12 mis diwethaf, a dywedodd 30,000 o bobl fod ganddynt broblem gyda gamblo.

Mae datblygiadau ym myd technoleg wedi gweld cynnydd anferth mewn apiau betio ar ffônau symudol, tabledi a chyfrifiaduron, sy’n gwneud gamblo yn fwy hygyrch nag erioed o’r blaen.

Mae Dr Atherton yn galw ar Lywodraeth Cymru i gytuno ar “gynllun gweithredu cryf ac uchelgeisiol” er mwyn lleihau’r niwed sy’n gysylltiedig â gamblo yng Nghymru.

Darllen rhagor : WalesOnline (Saesneg)