Digwyddiadau yn Eisteddfod 2019
‘Perfformio – ydi o’n dda i ni?’
Dydd Gwener, 9 Awst, 12pm, Llwyfan y Llannerch
Siaradwyr: Non Parry, Miriam Isaac, Carys Eleri a Gruff Jones.
Bydd y sesiwn hon yn archwilio perfformio a’i effeithiau – positif a negyddol – ar ein iechyd meddwl. Bydd y sesiwn hefyd yn cynnwys perfformiadau, ac yn cael ei arwain gan Non Parry o’r grŵp poblogaidd Eden!
‘Darllen yn Well: Iechyd Meddwl’
Dydd Sadwrn, 10 Awst, 2.30pm, Llwyfan y Llannerch
Siaradwyr: Bethan Hughes (prif lyfrgellydd Dinbych), Manon Elin (meddwl.org), Dewi Wyn Williams (awdur Madi) ac Angharad Tomos.
Digwyddiad ar y cyd gyda’r Cyngor Llyfrau i lansio’r gyfres ‘Darllen yn Well: Iechyd Meddwl.’ Trafodaeth ar bwysigrwydd llyfrau i godi ymwybyddiaeth a chynnig canllaw a chymorth i bobl sy’n byw gyda gwahanol gyflyrau iechyd meddwl.
Crysau-t ‘Paid â bod ofn’
Rydyn ni’n falch iawn i gyhoeddi bod Eden yn gwerthu crysau-t ‘Paid â Bod Ofn’ i godi arian i meddwl.org!
Dyma Emma Walford yn sôn mwy am y crysau-t…
“Y pwrpas ydy, hefo rhein fydd gwefan meddwl.org ar y crysau-t hefyd – jysd i godi ymwybyddiaeth hefyd yn ogystal ag arian – jysd i rhoi rhywbeth tuag at elusen lle ma’ pawb yn gneud eu gwaith o’u gwirfodd, a yr unig wefan, dwi’n meddwl, sydd yn cynnig adnoddau drwy’r iaith Gymraeg.
A ma’ hwnna jysd mor bwysig i drafod eich iechyd meddwl, ond ma’ nifer fawr, os mai Cymraeg ydy’ch iaith gyntaf chi, mae o, wrth reswm, yn mynd i hwyluso pethe i gael deunydd drwy’r iaith Gymraeg a gallu trafod y peth drwy’r iaith Gymraeg.” Darllen rhagor : Golwg360
Gallwch brynu crys am £15 drwy dudalen Facebook Eden, a byddant ar werth ar stondin Adra yn yr Eisteddfod.
Bathodynnau
Bydd ein bathodynnau newydd ar gael yn y steddfod ar stondinau Cymdeithas yr Iaith, Cadwyn a’r Cyngor Llyfrau!(Am ddim, ond gwerthfawrogir cyfraniad o £1)