Nofel newydd am anhwylderau bwyta : Atebol
Nofel i oedolion a phobl ifanc yw Madi gan yr awdur a’r dramodydd amryddawn, Dewi Wyn Williams. Dyma gyfrol ddirdynnol a chignoeth sy’n adrodd stori merch ifanc sy’n byw gydag anorecsia a bwlimia ac yn cuddio’r salwch.
Gydag arlunwaith lliwgar a manwl Niki Pilkington yn addurno’r clawr ac ambell i dudalen o fewn y gyfrol, dyma stori gan awdur sy’n ysgrifennu’n onest am bwnc sy’n bersonol iawn iddo.
Perffeithrwydd, hunaniaeth, rheolaeth. Sut gall Madi ddod o hyd i’r rhain mewn byd amherffaith, cystadleuol ac afreolus, a dim ond unigrwydd iddi yn gwmni? Nid yw stori Madi’n ddarllen cyfforddus, ac er bod y nofel yn llawn hiwmor tywyll a sylwadau crafog, mae’r cynnwys yn gignoeth. Dyma nofel heriol i’n cymdeithas fodern, a’i harddull a’i themâu anghonfensiynol yn torri cwys newydd.
Dywedodd Dewi:
“Mae’r cyflwr yn cynyddu ar draws y byd, yn cael ei fwydo gan gymdeithas sydd yn edrych fwyfwy i’r drych ac mae’n rhaid codi ymwybyddiaeth am y cyflwr seicolegol erchyll hwn sydd yn dinistrio unigolion a theuluoedd.”.
Bydd Madi ar gael i’w brynu ar ddiwedd mis Mawrth am £8.99 yn eich siop lyfrau leol neu’n uniongyrchol oddi wrth y cyhoeddwyr, Atebol.