Diffyg gweithwyr iechyd meddwl Cymraeg : Cymdeithas yr Iaith
Mae ceisiadau rhyddid gwybodaeth a wnaed gan Gymdeithas yr Iaith yn dangos bod diffyg staff sy’n medru’r Gymraeg yn y gwasanaethau iechyd meddwl, gyda phob un o fyrddau iechyd yn cyflogi canran llawer is na’r boblogaeth o siaradwyr Cymraeg yn eu dalgylchoedd.
Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan oedd â’r ganran isaf, gyda 1.9% yn unig o’r staff iechyd meddwl yn medru’r Gymraeg. Ym mwrdd iechyd Hywel Dda, sy’n gwasanaethu siroedd Dyfed, dim ond 16.7% oedd yn medru’r iaith i lefel ganolradd neu’n uwch. Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr oedd â´r ganran uchaf, gyda 30% o’r staff ym maes iechyd meddwl yn medru’r Gymraeg, ffigwr sy’n agos at ganran siaradwyr yr iaith ar draws y rhanbarth.
Mae’r Gymdeithas wedi ysgrifennu at y Byrddau Iechyd yn galw am well cynllunio’r gweithlu a mwy o hyfforddiant iaith i’r staff, er mwyn cynyddu’r gwasanaethau iechyd meddwl Cymraeg.
Mwy: cymdeithas.cymru