Diffygion difrifol gwasanaethau iechyd meddwl yn Gymraeg

Mae diffyg darpariaeth ddigonol o wasanaethau iechyd meddwl yn Gymraeg, dyna oedd neges ymgyrchwyr mewn digwyddiad ar faes Eisteddfod yr Urdd heddiw (2 Mehefin).

Cafodd gwefan meddwl.org, y wefan iechyd meddwl Gymraeg, ei lansio yn swyddogol yn ystod y digwyddiad ar stondin Cymdeithas yr Iaith. Mae’r wefan yn cynnwys manylion cyswllt elusennau all gynnig cymorth iechyd meddwl drwy gyfrwng y Gymraeg, gwybodaeth am gyflyrau iechyd meddwl, blogiau am brofiadau unigolion, fforwm drafod, ac adran newyddion –  i gyd yn Gymraeg.

Ychwanegodd Hedydd Elias, a fu’n siarad am ei phrofiadau yn ystod y digwyddiad:

‘Dros y ddegawd rwyf wedi bod yn derbyn cymorth a thriniaeth iechyd meddwl, dim ond unwaith rwyf wedi derbyn cymorth drwy’r Gymraeg a hynny gyda chwnselydd ysgol; dyw hyn ddim yn ddigon da, dylai cymorth craidd fod ar gael yn y Gymraeg i’r rheiny sydd yn ei mofyn. Roedd fy apwyntiad gyntaf, pan roeddwn yn 12eg mlwydd oed, gyda seiciatrydd plant doedd ddim yn medru’r Gymraeg; nid yn unig doedd hyn ddim yn deg i berson bregus, ond doedd ddim yn deg ar blentyn doedd ddim gyda geirfa digon eang i ddeall popeth oedd yn cael ei ddweud. Erbyn heddiw, mae’n well gen i siarad am fy iechyd meddwl yn Saesneg, achos yn Saesneg rwyf wedi derbyn cymorth dros y ddegawd diwethaf. Credaf yn gryf byddai pethau’n wahanol pe byddwn wedi derbyn cymorth drwy’r Gymraeg o’r cychwyn.’

Darllen rhagor : Cymdeithas yr Iaith