Cyflyrau’r croen: angen mwy o gymorth iechyd meddwl : BBC Cymru Fyw
Mae cyflyrau’r croen, sy’n cynnwys cyflyrau tebyg i ecsema, acne a dermatillomania, yn effeithio tua 13 miliwn o bobl yn y DU bob blwyddyn. Yn ôl arolwg diweddar, nid oes digon o gymorth iechyd meddwl yn cael ei roi i ddioddefwyr.
Yn ôl Phaedra Longhurst sydd wedi dioddef o broblemau gyda’i chroen:
“Ro’n ni’n teimlo cywilydd a dwi dal yn gwneud os yw’r cyflwr yn ailgodi. Fe wnaeth o effeithio arnaf i yn seicolegol, yn fwy nag o’n i’n sylwi ar y pryd. Mae ‘na lot o stigma yn parhau yn erbyn y rhai sydd â chyflwr croen, ac mae ‘na ddiffyg dealltwriaeth mawr ynglŷn â dermatillomania.”
Darllen rhagor : BBC Cymru Fyw
Beth yw dermatillomania?
Mae dermatillomania yn gyflwr sy’n cymell person i bigo a chrafu ei groen nes iddo greu briwiau gweladwy. Mae’n anhwylder rheoli cymhelliad (impulse-control disorder); cyflwr seicolegol lle nad yw person yn gallu atal ei hun rhag cyflawni’r weithred.
Bydd person â dermatillomania yn pigo, crafu neu wasgu croen sydd fel arall yn iach. Bydd yn gwneud hyn yn aml ac i’r eithaf. Fel arfer, mae pobl sy’n dioddef â’r cyflwr yn pigo’r croen ar eu wynebau a’u gwefusau, ond fe all fod yn unrhyw ran o’r corff, megis y dwylo, croen y pen a’r breichiau. Caiff y cyflwr hwn ei ystyried yn ffurf ar Anhwylder Gorfodaeth Obsesiynol (OCD).