Beirniadu S4C am beidio rhoi rhybudd cyn dangos hunan-niweidio : Golwg360
Ymwadiad: Mae’r erthygl hon yn cyfeirio at hunan-niweidio. Gallai’r tudalennau yma fod o gymorth: cymorth, Technegau ymdopi gyda hunan-niweidio.
Mae S4C wedi cael ei chyhuddo o fod yn “ansensitif” ac yn “anghyfrifiol”, ar ôl peidio â rhoi rhybudd i wylwyr ar ddechrau cyfres ddrama newydd sy’n cynnwys golygfeydd o hunan-niweidio.
Yn ôl un gwyliwr, mae un olygfa yn y rhaglen sy’n dangos cymeriad yn niweidio ei hun mewn ôl fflachiad, wedi achosi gofid iddi, ac mae’n gresynu nad oedd S4C wedi rhoi rhybudd i’r gwylwyr ar ddechrau neu ar ddiwedd y rhaglen.
Yn ôl Hedydd Elias o Aberystwyth, er iddi gael ei rhybuddio gan ffrind am yr olygfa dan sylw, roedd y profiad o’i gwylio yn dal yn “sioc” iddi:
“Dw i’n ei weld braidd yn anghyfrifol ac ansesitif i ddangos yr olygfa heb roi rhybudd ar ddachre’r rhaglen. Gallith e fod yn trigger i rywun. Mae’n rhywbeth anodd i’w weld os ydych chi mewn lle bregus – gallith e wir effeithio ar rywun.
“Dw i’n deall pam nethon nhw ddangos e, achos bo pobol ishe shock factor ac yn y blaen, ond ro’n i’n meddwl ei fod e’n ddiangen. Os oedden nhw’n mynnu cadw’r olygfa yn y rhaglen, sef yr hyn naethon nhw, fe ddylen nhw’n bendant wedi dweud bod yna olygfeydd anodd i’w gwylio yn y rhaglen, jyst er mwyn i bobol fod yn ymwybodol a gallu gwneud y penderfyniad, ‘wel dw i ddim eisiau gweld rhywbeth na fydda i’n gallu ymdopi ag e’.
“Fe ddylai’r rhybudd fod yna, dw i’n credu.”
Dywedodd llefarydd ar ran S4C:
“Hoffwn ddiolch i’r gwyliwr am ei sylwadau am y ddrama Craith, rydym yn gwerthfawrogi pob adborth. Hoffwn ddweud bod S4C wedi rhoi rhybudd cynhwysfawr ar ddechrau’r darllediad yn nodi bod y ddrama yn cynnwys iaith gref a golygfeydd o drais a allai anesmwytho a pheri gofid i wylwyr. Mae Craith yn gyfres sy’n ymdrin â phynciau dirdynnol a dyna pam y mae‘n cael ei darlledu ar ôl y trothwy am naw.”
Dywedodd llefarydd ar ran Mind Cymru:
“Mae’n bwysig rhybuddio gwylwyr o unrhyw beth y gallai fod yn drawmatig neu triggering iddynt. Er i S4C rhoi rhybudd mwy cyffredinol am y cynnwys ar ddechrau’r rhaglen, teimlwn y byddai rhybudd penodol am olygfeydd o hunan-niweidio wedi caniatáu gwylwyr bregus i wneud penderfyniad gwybodus p’un ai oeddent am wylio neu beidio.”