Adnoddau profedigaeth drawmatig newydd i ysgolion a chlinigwyr
Mae’r UK Trauma Council (UKTC) a gynhelir ac a gefnogir gan yr Anna Freud National Centre for Children and Families, wedi cydweithio ag elusennau profedigaeth blaenllaw, Child Bereavement UK, Winston’s Wish a’r Childhood Bereavement Network, i greu portffolio newydd o adnoddau am brofedigaeth drawmatig.
Mae’r portffolio newydd hwn o adnoddau am ddim, yn seiliedig ar dystiolaeth, a bellach ar gael yn Gymraeg ar gyfer staff ysgol, gwasanaethau profedigaeth a gwasanaethau iechyd meddwl y GIG. Mae’n cynnwys:
- Adnoddau i ysgolion a cholegau: gan gynnwys canllaw ysgrifenedig cynhwysfawr gyda dulliau cefnogol â fideos, ac animeiddiad 4 munud.
- Adnoddau clinigol: gan gynnwys canllaw ymarfer helaeth a fideos cefnogol i gefnogi’r rhai hynny sy’n gweithio’n therapiwtig â phlant a phobl ifanc.
Mae plant a phobl ifanc sydd wedi cael profedigaeth drawmatig yn profi gofid ac anawsterau arwyddocaol, yn fwy na galar mwy nodweddiadol. Mae’n bosibl y bydd profedigaeth drawmatig yn cael ei cholli neu’i chamddeall yn hawdd, sy’n golygu nad yw anawsterau plant yn cael eu hadnabod gan yr oedolion mwyaf cefnogol hyd yn oed, gan gynnwys rhieni, athrawon ac ymarferwyr profedigaeth. Mae’n hanfodol bod y plant hyn yn cael eu hadnabod ac yn cael y cymorth a’r gefnogaeth briodol.
Bydd yr adnoddau yn rhoi’r wybodaeth a’r dulliau i roi cymorth a chefnogaeth briodol i blant a phobl ifanc sydd wedi cael profedigaeth drawmatig. Crëwyd yr adnoddau hyn mewn ymateb i’r pandemig coronafeirws, sydd wedi cael cryn effaith ar iechyd meddwl plant a phobl ifanc.
Gweler yr adnoddau ynghyd â’r animeiddiad yma.