Yoga, Therapi a Siarad – Tara Bethan

(Hawlfraint y llun: Geraint Todd Photography)

Do’n i ddim wedi bwriadu defnyddio y gohebydd a’r bonheddwr, Dewi Llwyd fel Mental Help Therapist rhyw fore Sadwrn yn fy lolfa yn Grangetown nôl ym mis Tachwedd 😬  ond diolch i’w sgiliau holi heb ei ail, ei glust astud, cefnogol, a’r ffaith bod Mam a fi wedi hitio’r karaoke a’r gwin coch ychydig yn rhy galed y noson gynt, dyna a fu.

1 – DWI MOR FALCH!

2 – DIOLCH MR LLWYD 😍  Ma’r cwpwrdd fancy dress yn barod amdana chi 😉

3 – PAM BOD TRAFOD IECHYD MEDDWL DAL YN TABŴ??

Sgwrs “Penblwydd” oedd yr achlysur a’r cwestiwn cyntaf oedd “Hoff Benblwydd?”. Es i ‘mlaen i sôn am fy mhrofiad allan yn India yn troi yn 33 tra yn gwneud cwrs yoga o fis yn hyfforddi i fod yn athrawes a sut oedd y cwrs wedi trawsnewid fy mywyd o le go dywyll i le lle feddylish i i’n hun “dwi’n ok”. Yna daeth y cwestiwn “Fysech chi’n deud felly eich bod wedi dioddef o iselder yn y gorffennol?”. Que therapi sesh!

Do’n i methu CREDU yr ymateb ddoth o’r sgwrs a ddarlledwyd ar fore Sul Rhagfyr y 9fed ar Radio Cymru. Cymaint o gariad, cydymdeimlad, uniaethu a’r gair “dewr” yn popio fyny dros y siop. Dewr? Ond fel ‘na dwi wastad yn siarad?? Gor-rannu os wbeth! Methu cadw dim i fi fy hun! Ond ddim yn gyhoeddus o’r blaen ella?? Doedd y cwestiwn ‘rioed wedi codi neu ro’n i’n meddwl “pwy ‘sa isho clwad am fi a fy shit?”

Siarad a rhannu sydd wedi, ac sydd dal yn tynnu fy mhen i allan o’r cymylau bach tywyll ‘na sy’n ymddangos o dro i dro felly dwi WIR isho trio helpu normaleiddio’r drafodaeth.

Iselder, iechyd meddwl, anxiety, unigrwydd, emosiynau, be bynnag ydi’r pwnc, dwi’n gredwr cryf yn y dywediad “a problem shared is a problem halved.”

Y tro cyntaf ddoish i’n ymwybodol o fy iechyd meddwl oedd rhyw flwyddyn a hanner ‘rôl colli Dad. Roedd y golled yn uffernol ond ddim yn sioc. Ers o’n i’n fach iawn doedd iechyd Dad ddim yn grêt. Roedd o’n 53 pan gafodd o fi a rhwng y pêl- droed, bocsio, reslo a byw yn gyffredinol fel dyn gwyllt o’r coed (ond efo calon fel arth ❤) roedd ei gorff wedi bod drwyddi, ac ar Dachwedd y 12fed 2009, ar ôl trawiad calon, y diwedd a ddaeth 😢 .

Beth oedd yn sioc oedd bywyd ar ei newydd wedd. Ail wampio fy mherthynas gyda Mam, a trio negydu y siwrne o “wella” gyda hi er bod y ddwy ohonom efo syniadau hollol wahanol o sut i ddelio gyda’r daith. Mae galar WIR yn effeithio pobl mewn ffyrdd gwahanol.

O edrych ‘nôl, fel unig blentyn a’r cynta’ o fy gang o ffrindiau i golli rhiant, ro’n i’n unig ac ar goll.

Yn dod o deulu lle doedd NEB yn trafod eu teimladau, Duw a ŵyr sut ydw i wedi troi allan i fod yn gymaint o over sharer! Methu help. A dwi’n teimlo bob dim i’r byw. Gesh i’r enw “The Giant Clitoris” unwaith gan fy ffrind gorjys a hileriys, y berfformwraig (a’r Parchedig) Carys Eleri. Dyna pa mor sensitif ydw i!

Dros y blynyddoedd dwi wedi dysgu technegau a sgiliau i reoli’r tueddiadau diolch i yoga, meditation a therapi (proffesiynol ynghyd â’r sesh Dewi Llwyd).

“Overwhelmed” ydi’r unig air all ddisgrifio sut o’n i’n teimlo ‘nôl yn 2011 yn fuan ar ôl cwblhau saethu a chynhyrchu’r rhaglen ORIG.

Roedd hi’n rollercoaster o ddarganfod gymaint am fywyd Dad gan ei gyd-weithwyr a’i gymdogion, boddi mewn atgofion, ail-fyw ei angladd droeon tra’n dewis a dethol clipiau ohoni i’r rhaglen a dim amser na guide book ar gyfer sut i ddelio hefo’r galar. Ro’n i’n amrwd, exhausted a candryll. Do’n i ddim yn hwyl i fod o fy nghwmpas. So ar ôl dipyn o berswâd, off a fi at y Doctor.

Iselder a nervous exhausion oedd y diagnosis a’r trac mwyaf prydlon oedd antidepressants a gweld sut oedd rheini yn siwtio, ond doedd hyn ddim yn teimlo’n iawn i mi. Roedd y syniad o handio fy meddwl drosodd i dablet yn fy nychryn. Councelling oedd yr opsiwn arall meddai’r doctor, ond roedd y rhestr aros ar yr NHS yn hiiiir.

Felly esh i ar lein i chwilio am therapist breifat. Fyddai’n fythol ddiolchgar bod fy sefyllfa wedi gwneud hyn yn bosib.

Nid yn unig ges i gymorth ar sut i ddelio gyda’r galar a sut i helpu fy hun yn fy sefyllfa ar y pryd, ond fe gododd llwythi o issues eraill oedd wedi bod yn sdyc ynddai ers blynyddoedd. Effaith cael fy mwlio yn yr ysgol, fy mherthynas gyda fy nghorff a bwyd, fy nhueddiad i drio plesho drwy’r amser, gor-feddwl a gorbryder yn enwedig yn fy ngyrfa, effeithiau bod yn blentyn yn tyfu fyny mewn byd llawn oedolion a’r hen ffefryn dwi bellach yn deall sydd yn drafferth i GYMAINT ohono ni…byth teimlo yn “ddigon.’ 😫

Ges i addysg gwbl newydd gan fy therapist, Karen (ma Karen yn LUSH) am y ffordd ma’r meddwl yn ymateb i bethau o ganlyniad i brofiadau o’n gorffennol ni. A thrwy adnabod ein tueddiadau neu ein triggers mae modd i ni gymryd cyfrifoldeb dros ein meddwl a rheoli’r ffordd ‘da ni’n ymateb. MIND BLOWN.

Er bod yr ergyd o golli Dad wedi bod yn siwrne anodd ac afiach ar adegau, o leiaf roedd yna “reswm” pam o’n i’n stryglo. Beth a ddaeth yn y blynyddoedd i ddilyn oedd cyfnodau o deimlo’n “isel” a “tywyll” am ddim rheswm. Roedd hwn bron yn anoddach i’w drin ar y dechrau oherwydd os nad ydan ni’n adnabod gwraidd y broblem, sut ddiawl ma modd ei drwsho?!

Hefyd, pa hawl ‘sgen i i ddisgwyl cymorth neu glust i wrando arna i pan “does dim byd wedi digwydd”?

Ar y pryd ro’n i’n mynd i wersi yoga, yn bennaf i helpu fy nghorff rhag y poenau o ganlyniad i ballet pan yn iau. Rhywbeth corfforol oedd yoga yn fy mhen i. 9 mlynedd yn ddiweddarach, a bellach fel athrawes hatha, ashtanga, yoga beichiog a yoga mam a phlentyn dwi’n deallt yn wahanol. Mae’r Gorllewin YN RONG yn y ffordd mae’n hysbysebu yoga efo merched hot mewn leotards efo’u coesau rownd eu pennau. MAE YOGA I BAWB. Y ffordd fyswn i’n ei ddisgrifio ydi anrheg bach o saib i’r corff a’r meddwl. Mae pawb yn haeddu presant bach a ma pawb yn haeddu saib. DYDYN?!

Mi ddysgais i gymaint o declynnau gwerthfawr yn ystod fy nghwrs yn India ac fe ddaeth llwyth o atgofion yn llifo nôl o fy nghyfnod gyda fy therapist 5 mlynedd ynghynt. Bron fel darnau o jig-so yn plethu at ei gilydd.

Dwi wastad wedi bod yn un i feddwl “reit…dyna ni hwnna di sortio…’mlaen a ni at y peth nesa” ond mewn gwirionedd does dim byd yn para am byth. Felly, nesh i bwcio i fynd nôl at Karen a trio priodi y ddau bwnc at ei gilydd.

Dwi’n caru deallt mwy a mwy am y meddwl a’i ffyrdd ac wedi elwa cymaint dros y blynyddoedd o ymchwil. Dwi hefyd mor falch bod cymaint mwy o gefnogaeth a gwybodaeth allan yna i ni bellach ar ffurf blogs, llyfrau, podcasts ac ati.

Dwi ymhell o fod yn “OK” drwy’r amser ond y prif beth dwi’n cofio rŵan ydi ei bod hi’n ok i beidio bod yn ok ar adegau.

Bod y teimlad ych a fi ‘na ddim yn mynd i bara am byth a bod poeni am y peth neu rhoi hard time fi fy hun ond yn mynd i waethygu’r sefyllfa. Hefyd, er bod meddyginiaeth ddim i fi, dwi’n ‘nabod gymaint o bobl sydd yn elwa’n fawr ohono. Rhannu eich problem ydi’r cam cyntaf. Gyda doctor, ffrind, cyd-weithiwr, unrhyw un.

Mae unigrwydd neu ddioddef mewn tawelwch ond yn gwneud y sefyllfa yn anoddach.

Dwi mor ddiolchgar i meddwl.org am fy ngwahodd i rannu fy mhrofiadau ‘nôl ym mis Rhagfyr llynedd a dwi mor, MOR sori am yr oedi i’w gwblhau!!

5 mis o drio tawelu’r f**cin lleisiau “dwi ddim digon da i sgwennu hwn, fydd o’n crap” sydd ar fai!!

Byddwch yn glên efo’ch hunain,

Cariad mawr,

Tara Bethan 🧡❤ 💚 🧡 💜 💙 💛


image_pdfPDFimage_printArgraffu
Rhannu

Gadael Ymateb