Gwaith

Ar hyn o bryd mae 1 o bob 6 gweithiwr yn delio â phroblem iechyd meddwl megis gorbryder, iselder neu straen.

Myth yw meddwl na all pobl â phroblemau iechyd meddwl weithio. Mae’n hanfodol deall eu bod yn gallu gweithio a’u bod yn gwneud hynny, a gyda’r wybodaeth a’r sgiliau cywir, gallwch gefnogi eich gweithwyr i aros yn iach.

Mae angen i bob un ohonom ofalu am ein hiechyd meddwl, yn yr un ffordd â’n hiechyd corfforol. Ac o ystyried faint o amser rydym yn ei dreulio yn y gwaith, nid yw’n syndod y gall effeithio ar ein hiechyd meddwl. Mae’r graddau y mae sefydliad yn cydnabod hyn ac yn cymryd camau cadarnhaol i gefnogi iechyd meddwl gweithwyr yn gwneud gwahaniaeth mawr.

Achosion problemau iechyd meddwl yn y gweithle

  • oriau hir heb egwyl
  • disgwyliadau neu derfynau amser afrealistig
  • amgylcheddau gwaith â gormod o bwysau
  • llwythi gwaith anymarferol neu ddiffyg rheolaeth dros waith
  • amgylchedd gwaith ffisegol gwael
  • rolau risg uchel
  • gweithio’n unigol
  • ynysu daearyddol
  • cydberthnasau rhyngbersonol anodd
  • cyfathrebu mewnol gwael
  • cymorth rheoli gwael
  • ansicrwydd swydd neu newid a reolir yn wael

Cydbwysedd bywyd a gwaith

Yn y byrdymor efallai fod oriau hir yn ymddangos yn ymarferol, ond gall pwysau parhaus a chydbwysedd bywyd a gwaith gwael arwain at straen a chwythu plwc yn gyflym, gan ostwng lefelau cynhyrchiant, perfformiad, creadigrwydd a morâl ymhlith gweithwyr. Gellir osgoi hyn drwy annog staff i wneud y canlynol:

  • gweithio oriau synhwyrol
  • cymryd egwyl lawn i ginio
  • gorffwys ac ymadfer ar ôl cyfnodau prysur
  • osgoi gweithio ar benwythnosau – yn enwedig o gartref
  • cymryd eu holl wyliau blynyddol

Addasiadau yn y gweithle

  • Oriau hyblyg neu newid amser dechrau/gorffen
  • Newid gweithfan
  • Gweithio o gartref
  • Newidiadau i egwyliau
  • Darparu ystafelloedd tawel
  • Polisïau dychwelyd i’r gwaith
  • Llacio rheolau absenoldeb a chyfyngiadau i’r rheini sy’n absennol oherwydd anabledd
  • Ailddyrannu rhai tasgau neu newid disgrifiadau swydd a dyletswyddau pobl
  • Mwy o oruchwyliaeth neu gymorth gan reolwr.
  • Nodi ‘man diogel’ yn y gweithle lle gall yr unigolyn gael ychydig o amser i’w hun, cysylltu â’i gyfaill neu ffynonellau eraill o gymorth a chael gafael ar hunangymorth

Cyngor i reolwyr – tra bo gweithwyr yn absennol oherwydd salwch

  • Anfonwch gerdyn ‘brysiwch wella’ fel y byddech gyda chyflwr corfforol
  • Byddwch yn glir y gwnaiff y sefydliad gefnogi pobl yn ystod eu habsenoldeb
  • Cyfathrebwch â phobl yn rheolaidd ac mewn ffordd agored ac ystyrlon
  • Gweithredwch bolisi drws agored fel y gall yr unigolyn ddod atoch gydag unrhyw bryderon
  • Nodwch yn glir na ddylai pobl ruthro yn ôl i’r gwaith na gwthio eu hunain yn ormodol
  • Rhowch y wybodaeth ddiweddaraf i bobl am ddatblygiadau pwysig yn y gwaith fel eu bod yn dal i deimlo mewn cysylltiad
  • Cytunwch pa wybodaeth yr hoffent ei rhannu â chydweithwyr – bydd cydweithwyr agos am wybod eu hanes

(darllen rhagor: Mind)

Pecyn Samariaid Cymru i sicrhau tosturi yn y gweithle

Mae’r pecyn yn cynnig awgrymiadau i staff ar sut i wrando’n well a gwybod beth i wneud pan fo cydweithiwr yn cael argyfwng iechyd meddwl.

Bwriad ‘Gweithio gyda Thosturi – Pecyn Cymorth i Gymru’ yw hybu diwylliant lle mae gan bobl hyder i ofyn am help, ac i roi help i eraill pan fo angen.

Mae’r pecyn yn cynnwys ffeithiau a gwybodaeth ynghyd ag awgrymiadau a gweithredoedd y gellir eu defnyddio yn eich bywyd gwaith. Gall y pecyn cymorth hwn eich cynorthwyo wrth ichi siarad a helpu rhywun sy’n profi iechyd meddwl gwael neu drallod emosiynol, a beth y dylid ei wneud mewn argyfwng iechyd meddwl.

Salwch Meddwl: Eich hawliau yn y gweithle

Pan fyddwn ni’n dioddef â salwch meddwl, mae tasgau bywyd bob dydd yn gallu bod yn anodd, felly mae ceisio gweithio ar ben hynny’n gallu bod yn heriol. Gall salwch meddwl ymyrryd â’n gallu i weithio – i rai ohonom gall hynny olygu nad ydym yn gallu gweithio o gwbl, i eraill gall olygu bod angen addasiadau penodol yn y gweithle arnom. Bydd gan gyflogwyr gwahanol lefelau gwahanol o ddealltwriaeth am salwch meddwl, felly mae’n beth da i wybod beth yw ein hawliau.

Darllen rhagor – Salwch Meddwl: Eich hawliau yn y gweithle

Adnoddau gan Mind ar iechyd meddwl yn y gweithle