Salwch Meddwl: Eich hawliau yn y gweithle

Pan fyddwn ni’n dioddef â salwch meddwl, mae tasgau bywyd bob dydd yn gallu bod yn anodd, felly mae ceisio gweithio ar ben hynny’n gallu bod yn heriol. Gall salwch meddwl ymyrryd â’n gallu i weithio – i rai ohonom gall hynny olygu nad ydym yn gallu gweithio o gwbl, i eraill gall olygu bod angen addasiadau penodol yn y gweithle arnom.

Bydd gan gyflogwyr gwahanol lefelau gwahanol o ddealltwriaeth am salwch meddwl, felly mae’n beth da i wybod beth yw ein hawliau.

Y Ddeddf Gydraddoldeb

Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn ystyried salwch meddwl fel anabledd. Mae hyn yn golygu bod salwch meddwl wedi’i amddiffyn o dan y Ddeddf Gydraddoldeb. Nid yw cyflogwyr yn gallu gwahaniaethu yn ein herbyn pan fyddwn yn ymgeisio am swyddi, pan fyddwn ni yn y gwaith, neu os fyddwn yn colli ein swydd, gan gynnwys ei golli drwy ddiswyddiad, ar sail ein salwch meddwl. Mae’n rhaid i gyflogwyr hefyd wneud addasiadau rhesymol pan fyddwn yn y gwaith.


Ymgeisio am swyddi

Nid yw cyflogwyr yn gallu gofyn cwestiynau i ni ynghylch ein hiechyd meddwl cyn cynnig swydd i ni, heblaw eu bod: yn gofyn am unrhyw addasiadau rhesymol sydd angen arnom yn ystod y broses ymgeisio, yn gwirio bod ganddyn nhw geisiadau gan amrywiaeth eang o bobl, neu’n gofyn a fyddwn yn gallu gwneud tasgau sy’n ganolog i’r rôl.


Symbol Cynllun Hyderus o ran Anabledd

Mae’r Cynllun Hyderus o ran Anabledd yn ymgyrch a lansiwyd gan y Lywodraeth y DU yn 2016. Mae wedi’i ddylunio i annog cyflogwyr i gyflogi pobl sydd ag anabledd. Wrth ymgeisio am swyddi, os oes gan gyflogwr symbol Cynllun Hyderus o ran Anabledd, mae’n golygu eu bod yn dda wrth gyflogi a chadw pobl ag anabledd mewn cyflogaeth.


Penderfynu datgan eich salwch neu beidio

Pan fyddwn ni’n ymgeisio am swyddi, bydd angen i ni benderfynu p’un ai i ddatgan ein salwch neu beidio, ac os fyddwn ni’n penderfynu datgan, p’un ai i ddweud wrth ein darpar gyflogwr yn ystod y cyfnod ymgeisio, neu pan fyddwn yn derbyn cynnig swydd. Mae datgan yn golygu ein bod wedi ein hamddiffyn gan y Ddeddf Gydraddoldeb. Mae’n ein galluogi i gael cefnogaeth bellach yn y gwaith, i ymgeisio am addasiadau rhesymol, ac i gael cefnogaeth gan ein cyd-weithwyr o bosib. Fodd bynnag, mae posibilrwydd y byddwn yn cael ein barnu gan ein cyd-weithwyr neu gyflogwr. Yn gyfreithiol, nid ydym yn gorfod datgan ein salwch, ein dewis ni yw p’un ai i ddweud wrth ein cyflogwr bod gennym gyflwr iechyd meddwl.


Mynediad i Waith

Mae Mynediad i Waith yn gynllun sy’n gallu talu am gefnogaeth ymarferol a allai fod angen arnom er mwyn ein helpu i ddechrau gweithio, i aros yn y gwaith, neu i ddechrau busnes ein hunain. Er enghraifft, gall helpu i dalu am dacsi os nad ydym yn gallu defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, neu gall dalu am weithiwr cymorth i’n helpu yn ein swydd.


Gweithio a Budd-daliadau

Pan fyddwn yn dechrau gweithio, gall effeithio ar y budd-daliadau yr ydym yn eu derbyn.

Os ydym yn hawlio Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA), mae gennym yr hawl i wneud rhywfaint o waith a’i dderbyn o hyd, ac mae’r un peth yn berthnasol i’r Lwfans Ceiswyr Gwaith (JSA).


Addasiadau Rhesymol

Pan rydym yn gweithio, os ydym wedi datgan ein salwch i’n cyflogwr, yn ôl y gyfraith mae’n rhaid iddynt roi addasiadau rhesymol ar waith os fyddwn ni dan anfantais arwyddocaol heb yr addasiadau hynny. Gall addasiadau gynnwys pethau megis trefnu oriau gweithio gartref, caniatâd i gael amser i ffwrdd ar gyfer apwyntiadau, neu ddefnyddio neges llais i gymryd negeseuon os ydym yn cael trafferth â galwadau ffôn. Gall ein cyflogwyr gael cymorth ariannol ar gyfer addasiadau rhesymol drwy’r cynllun Mynediad i Waith. Efallai bydd gan rhai gweithleoedd adran Iechyd Galwedigaethol a all asesu ein gallu i wneud swydd, ac awgrymu addasiadau y gall ein cyflogwr wneud i’n helpu i aros yn y rôl.


Ffit i Weithio

Os ydym wedi bod i ffwrdd o’r gwaith am dros bedair wythnos, gall ein cyflogwyr ein cyfeirio at Ffit i Weithio. Mae asesiadau Ffit i Weithio’n fenter a gyllidwyd gan Llywodraeth y DU sy’n gallu cynnig cyngor am ddychwelyd i’r gwaith, ac yn gallu ein cyfeirio at weithiwr Iechyd Galwedigaethol sy’n gallu ein helpu i greu cynllun dychwelyd i’r gwaith.


Tâl pan fyddwch i ffwrdd o’r gwaith

Ambell waith gall ein salwch gyrraedd lefel lle mae’n rhaid i ni gymryd amser i ffwrdd o’r gwaith fel absenoldeb salwch. Mae’r cyfnod o amser y byddwn yn parhau i dderbyn tâl llawn yn amrywio o swydd i swydd, yn dibynnu ar bolisi’r cyflogwr ac ar ba mor hir yr ydym wedi bod yn gweithio iddynt. Bydd rhai cyflogwyr yn parhau i roi’r tâl llawn i ni am nifer o wythnosau, ac yna’n ei leihau i hanner tâl. Unwaith nad ydym yn derbyn tâl gan ein cyflogwyr bellach, a’n bod wedi bod i ffwrdd o’r gwaith am dros 4 diwrnod, gallwn ni dderbyn Tâl Salwch Statudol (SSP) am hyd at 28 wythnos.


Dychwelyd ir gwaith

Mae dychwelyd i’r gwaith ar ôl i chi fod yn absennol am gyfnod yn gallu bod yn anodd iawn. Gall cadw mewn cysylltiad â’n cyflogwr yn ystod ein habsenoldeb fod o fudd, fel bod dychwelyd yn teimlo’n llai brawychus. Nid oes angen i ni fod yn hollol rydd o’r salwch er mwyn dychwelyd i’r gwaith, ond hefyd ni ddylem deimlo pwysau i ddychwelyd cyn byddwn ni’n barod. Mae’n debygol y bydd angen nodyn ‘ffitrwydd i weithio’ gan ein meddyg teulu er mwyn dychwelyd i’r gwaith – ar y nodyn hwnnw mae lle i’r meddyg awgrymu addasiadau a all ein helpu i ddychwelyd, megis oriau gostyngol am gyfnod a’u cynyddu’n araf.


Cadw eich swydd

Os nad ydym yn gallu parhau â’n swydd oherwydd salwch hirdymor, ac nid oes unrhyw addasiadau rhesymol y gellir eu gwneud i’n helpu i aros yn ein swydd, gall ein cyflogwr ein diswyddo. Byddai hyn yn opsiwn olaf, a dylai’r cyflogwr bob amser geisio trefnu addasiadau i’n helpu i aros yn ein rôl.


Gwneud cwyn

Os ydym yn teimlo ein bod wedi cael ein gwahaniaethu, gallwn ni wneud cwyn. I wneud hyn, gallwn ni ddechrau drwy godi’r mater yn anffurfiol, ac yna mynd trwy weithdrefnau ffurfiol. Os ydym o hyd yn teimlo nad yw’r broblem wedi’i datrys, gallwn gwyno i dribiwnlys cyflogaeth.


Gofyn am gymorth

Os oes angen cymorth pellach arnoch i drafod eich hawliau yn y gweithle, mae sefydliadau sy’n gallu helpu. Mae gan ‘Benefits and Work’ adnoddau ardderchog, a fforwm gweithredol ar gyfer aelodau lle y gallwch ofyn cwestiynau. Mae Canolfannau Cyngor ar Bopeth hefyd yn gallu bod o gymorth: mae ganddyn nhw lawer o wybodaeth ar eu gwefan neu gallwch chi gysylltu â’ch canolfan lleol i gael cyngor personol.

(Gwybodaeth o blurtitout.org)


Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.


 

image_pdfPDFimage_printArgraffu
Rhannu

Gadael Ymateb