Iechyd Meddwl a’r Gymraeg

Cynhaliwyd trafodaeth ar iechyd meddwl, ar y cyd rhwng meddwl.org a Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, yn Eisteddfod yr Urdd eleni

Yr aelodau ar y panel drafod oedd Dr Dai Lloyd AC, Gwen Goddard o’r elusen Hyfforddiant Mewn Meddwl, David Williams ar ran meddwl.org a chadeiriwyd y drafodaeth gan Siân Howys o Gymdeithas yr Iaith. Y prif bynciau a drafodwyd oedd iechyd meddwl ymhlith pobl ifanc, a gwasanaethau iechyd meddwl Cymraeg.

Dr Dai Lloyd AC yn esbonio beth yw therapi CBT


‘Os chi methu esbonio’n glir beth sy’n bod ‘da chi, chi’n methu cal yr help sydd angen arno chi’ – David Williams


‘Ma ‘na brinder gwasanaethau ta beth, ym mha bynnag iaith, ond ma ‘na brinder affwysol drwy gyfrwng y Gymraeg’ – Dr Dai Lloyd AC


‘Dy’n ni erioed wedi cael cynnig unrhyw fath o wasanaeth Cymraeg, fel teulu Cymraeg’ – Siân Howys


‘Os wyt ti’n brwydro gyda dy hun, os ti’n brwydro yn dy feddwl dy hun, i geisio wedyn brwydro er mwyn cael gwasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg – dy’n ni methu neud e’ – Gwen Goddard


‘Yr help sydd ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg – mae’n dibynnu’n llwyr ar ble chi’n byw’ – David Williams