Sut i ymdopi wrth ddychwelyd i’r gwaith ar ôl cyfnod hir
Wrth i rai sydd wedi bod yn gweithio o adre, neu heb fod yn gweithio yn ystod y cyfnod clo, ddechrau dychwelyd i’r swyddfa neu i’r gwaith am y tro cyntaf ers misoedd, a’r plant yn mynd yn ôl i’r ysgol, mae’n bwysig edrych ar ôl ein iechyd meddwl, meddai Hywel Llŷr o’r wefan meddwl.org.
Yn ystod y cyfnod hir o fod yn ein cartrefi, mae nifer wedi rhoi pwyslais ar ofalu am eu iechyd meddwl mewn gwahanol ffyrdd.
“Mae’r rhan fwyaf ohonon ni wedi cael ein profi mewn ffyrdd fydden ni ddim wedi dychmygu dros y chwe mis diwethaf, ac wedi llwyddo, ac wedi dod o hyd i ffyrdd newydd o ymdopi – yn gweithio o adre, neu ddim wedi gallu gweithio o gwbl o bosib,” meddai.
“Mae llacio’r cyfnod clo wedi dod â chyfleoedd i ni, gallu ‘neud rhai o’r pethau ry’n ni wedi edrych mlaen i ‘neud, ond mae’n bwysig hefyd cadw llygad a chofio bod y newidiadau hapus yma yn gallu bod yn anodd ar y iechyd meddwl,” meddai.
“Mae angen paratoi ein hun ar gyfer hynny, fel ein bod ni ddim yn dioddef eto. Mae gan bawb iechyd meddwl, dydyn ni ddim ar ben ein hunain, mae yna gymorth allan yna a gallwn ni helpu’n gilydd.”