Podlediad iechyd meddwl newydd
Helo, fy enw i yw Gemma a fi yw cyflwynydd y podlediad iechyd meddwl newydd, ‘Rhannu’r Baich’.
Rwy’n angerddol am iechyd meddwl oherwydd profiadau fy hun ac yn teimlo ei bod yn bwysig cael adnoddau yn yr iaith Gymraeg.
Rwyf wedi defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol i rannu fy nhaith iechyd meddwl ers blynyddoedd lawer. Rwyf fy hun wedi dioddef o orbryder, iselder ac OCD ers pan oeddwn yn ifanc iawn. Yn ystod y cyfnod hwn, rwyf wedi rhoi cynnig ar lawer o driniaethau, therapïau a meddyginiaethau. Roedd dysgu o brofiadau pobl eraill yn tŵl pwerus, gan wneud i mi deimlo’n llai unig ac yn rhoi gobaith i mi y gallwn wella.
Rwyf bellach yn 31 oed, yn briod, yn fam i ddau ac wedi cael diagnosis o awtistiaeth yn ddiweddar. Nawr, yn fwy nag erioed, rwyf am rannu fy mhrofiadau fy hun a chlywed straeon a brwydrau personol iechyd meddwl pobl eraill.
Mae pŵer mewn rhannu, ac yn ystod y podlediad hwn, byddaf yn siarad â phobl ledled Cymru, o bob math o gefndir, sydd wedi stryglo gyda’u hiechyd meddwl, yn adnabod rhywun sydd wedi, neu sydd wedi gweithio’n broffesiynol yn y maes.
Bwriad y podlediad hwn yw i godi ymwybyddiaeth am yr elfennau gwahanol o broblemau iechyd meddwl a sut mae e’n gallu effeithio ar unrhyw un mewn ffyrdd wahanol. Mae bywyd yn gallu bod yn galed ac yn yr amseroedd hynny mae’n gallu bod yn le unig iawn. Does dim angen i neb deimlo ar ei ben ei hun.
Felly ymunwch gyda ni am y gyfres, yn y bennod gyntaf bydd Ffion yn ymuno gyda fi i drafod ei phrofiadau iechyd meddwl, i ddarganfod bod ganddi ADHD yn hwyrach mewn bywyd. Profiad mae llawer o bobl ar y foment yn gallu uniaethu gyda yn anffodus gyda rhestrau aros am ddiagnosis niwrowahaniaeth yn tyfu.
Gallwch wrando ar y podlediad yma.