Mynd i weld y meddyg am broblem iechyd meddwl

Os wyt ti’n poeni am dy iechyd meddwl, y cam cyntaf i gael help yw siarad gyda dy feddyg teulu.

Pryd dylwn i fynd i weld fy meddyg teulu?

Galli di fynd i weld dy feddyg teulu unrhyw bryd rwyt ti’n teimlo bod cymorth arnat ti gydag unrhyw beth. Felly, os wyt ti’n teimlo’n isel, o dan straen, yn methu ymdopi neu hyd yn oed yn clywed neu’n gweld pethau nad ydynt yna, paid â bod ofn trefnu apwyntiad.

Sut mae trefnu apwyntiad gyda fy meddyg teulu?

Yn gyntaf, gwna’n siŵr dy fod di wedi cofrestru. Ar ôl i ti gofrestru, y cyfan sydd angen i ti wneud yw ffonio’r feddygfa a threfnu apwyntiad. Does dim rhaid i ti ddweud pam yn union dy fod di eisiau’r apwyntiad. Galli di ddweud ei fod yn ymwneud â phroblem iechyd meddwl, ond does dim rhaid i ti fanylu llawer o gwbl.

Galli di ofyn am feddyg penodol, am feddyg benywaidd neu wrywaidd, neu holi a oes un sy’n arbenigo mewn iechyd meddwl. Gan na fydd apwyntiad yn para’n fwy na 10 munud fel arfer, galli di ofyn am apwyntiad dwbl fel na fyddi di’n teimlo bod angen i ti frysio.

Galli di ddod â rhywun arall gyda ti. Gallan nhw siarad ar dy ran, dy helpu i gofio beth mae’r meddyg yn ei ddweud, neu’n syml fod gyda ti yno a dal dy law.

Beth fydd yn digwydd yn yr apwyntiad?

Pan fyddi di’n mynd at y meddyg teulu neu at wasanaeth iechyd meddwl arbenigol i ofyn am help, mae’n debygol y byddan nhw’n gofyn cyfres o gwestiynau yn ymwneud â dy iechyd corfforol a meddyliol, yn ogystal â dy symptomau penodol. Bydd hyn yn helpu’r arbenigwyr i lunio braslun o dy fywyd er mwyn cyrraedd diagnosis. Bydd rhai o’r cwestiynau hyn yn eithaf personol a rhai ohonyn nhw yn anodd eu hateb, sy’n hollol iawn. Nid yw’n hawdd siarad am dy iechyd meddwl gan ei fod yn fater preifat, a bydd dy feddyg yn deall hyn.

Gall dy asesiad gynnwys y themâu hyn:

  • Y symptomau yn ymwneud â dy iechyd meddwl;
  • Sut wyt ti’n teimlo, dy feddyliau a beth wyt ti’n ei wneud;
  • Dy iechyd corfforol a dy gyflwr cyffredinol;
  • Bywyd cartref a sut wyt ti’n dod ymlaen gyda dy ffrindiau a dy deulu;
  • Defnydd o gyffuriau ac alcohol;
  • Dy ddiogelwch di a diogelwch eraill;
  • Pa fath o feddyginiaeth wyt ti’n eu cymryd;
  • Profiad o broblemau tebyg yn y gorffennol;
  • Dy fywyd dydd i ddydd, dy gefndir a dy ddiwylliant.

Does dim rhaid i ti siarad am bethau os nad wyt ti’n gwbl gyfforddus, ond gall helpu i fod yn agored. Os wyt ti’n poeni, galli di ysgrifennu popeth ymlaen llaw a dod â phopeth gyda ti. Gall hynny dy helpu i gofio popeth.

Ni chaiff dy broblemau iechyd meddwl eu datrys mewn un apwyntiad gyda’r meddyg teulu, yn anffodus. Ond, dyma ddechrau ar y daith tuag at deimlo’n well.

Beth ddylwn i ei ofyn i’r meddyg teulu?

Galli di ofyn unrhyw gwestiynau sydd gen ti. Gwna’n siŵr dy fod di’n deall:

Dy ddiagnosis – Os dywedodd y meddyg fod gen ti gyflwr penodol, gofynna beth mae hyn yn ei olygu a sut mae’n debygol o effeithio arnat ti.

Dy driniaeth – Gofynna pa fath o driniaeth sydd ar gael, eu manteision ac anfanteision, a pha mor hir mae’r driniaeth yn debygol o bara.

Beth nesaf – Gofynna beth yw’r cynllun. Wyt ti’n cael dy gyfeirio at arbenigwr neu at wasanaeth iechyd meddwl? Faint o amser bydd hynny’n ei gymryd? Oes angen i ti drefnu apwyntiad arall gyda’r meddyg? Sut alli di ofalu am dy iechyd meddwl yn y cyfamser?

[Ffynhonnell: themix.org]


Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.

Cyhoeddwyd: Rhagfyr 2017.  Diweddarwyd: Chwefror 2026.