Gweithgareddau i helpu plant sy’n galaru
Mae llawer o bethau y gallwch eu gwneud i helpu’ch plentyn i alaru drwy weithio drwy eu hemosiynau, deall beth sydd wedi digwydd ac ymdopi â’u colled.
Er na allwn gael gwared ar y tristwch, fe allwn ni gefnogi plant i fynegi eu hemosiynau.
Ein greddf yw amddiffyn ein plant y gorau y gallwn, ond pan ddaw’n fater o brofedigaeth efallai nad yw eu cysgodi yn bosibl. Bydd 41,000 o blant yn dioddef profedigaeth bob blwyddyn yn y DU, ac yn syfrdanol, bydd 92% o bobl ifanc yn profi colled sylweddol erbyn iddynt gyrraedd 16 oed.
Creu bocs cofio
Gall gweithio gyda’ch gilydd i greu bocs cofio fod yn ffordd wych o gofio’r un yr ydych yn ei garu a chadw trysorau’r person hwnnw’n ddiogel. Byddai modd casglu lluniau, anrhegion, addurniadau neu fementos ynghyd i fynd i mewn i’r bocs. Ar gyfer plant iau, ceisiwch gynnwys lluniau a dynnwyd â llaw neu cofnodwch beth oedd eu hoff atgofion o’r person sydd wedi marw.
Darllenwch gyda’ch gilydd
Gall darllen llyfrau helpu plant i archwilio a deall eu hemosiynau. Gall darllen am golled a galar trwy lygaid cymeriadau eraill a dod i wybod am ddigwyddiadau a sefyllfaoedd mewn amgylchedd sy’n ddiogel fod yn haws i blant adnabod eu teimladau nhw eu hunain. Gall gweithio drwy lyfr gweithgaredd galar neu brofedigaeth fod yn ffordd effeithiol o gael plant i feddwl, siarad neu dynnu lluniau am yr hyn sydd wedi digwydd. Gall llyfrau â lluniau sy’n esbonio marwolaeth mewn ffordd dyner fod yn ffordd o gychwyn sgwrs â nhw am eu teimladau a’u dealltwriaeth o’r sefyllfa.
Anogwch ysgrifennu neu gofnodi
Gall derbyn nad yw rhywun annwyl gyda chi bellach fod yn anodd iawn. Gall siarad yn uchel am eu colled fod yn anodd tu hwnt. Trwy annog ysgrifennu neu gofnodi, ysgrifennu llythyrau, cerddi, tynnu lluniau neu wneud collages, gall plant roi ar bapur yr hyn y gallent ei chael yn anodd mynegi ar lafar. Ar gyfer plant iau, gall gweithio drwy lyfr profedigaeth ddarparu ffordd strwythuredig ac effeithiol o weithio trwy eu meddyliau a’u teimladau.
Creu albwm lluniau
Efallai y bydd plant yn poeni y byddant yn anghofio’r person sydd wedi marw. Gall edrych ar luniau fod yn ffordd dda o siarad am amseroedd hapus. Gall addurno ffrâm, neu greu albwm gyda’ch gilydd hefyd roi cyfle i’ch plentyn siarad a chofio am atgofion hapus sydd ganddynt o’r person sydd wedi marw.
Gwneud breichled
Mae’n gallu teimlo’n eithaf unig pan fydd rhywun agos yn marw. Efallai y bydd rhai plant yn teimlo nad oes ganddynt unrhyw un y gallant siarad â nhw, neu yn bryderus am boeni pobl eraill drwy siarad am yr un y maent yn ei garu. Un symbol syml, gweledol, a all atgoffa plant o’r bobl sydd yno ar eu cyfer yw breichled cyfeillgarwch. Ceisiwch gael eich plentyn i restru pump neu chwech o bobl sy’n gofalu amdanynt; dewiswch linyn lliw gwahanol o edau ar gyfer pob person, plethwch nhw gyda’i gilydd a helpwch eich plentyn i’w clymu. Nawr, pryd bynnag maent yn teimlo’n isel neu’n ansicr, bydd ganddynt atgof gweledol o’r bobl y gallant siarad â nhw.
[Ffynhonnell: happiful.com]
Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.