Gorbryder – Sut alla i helpu?

Gall fod yn anodd pan fydd rhywun annwyl i chi yn profi gorbryder, ond mae pethau y gallwch chi eu gwneud i’w helpu.

Peidiwch â rhoi pwysau arnynt

Ceisiwch beidio â rhoi pwysau ar eich ffrind neu aelod o’r teulu i wneud mwy nag y maen nhw’n teimlo’n gyfforddus yn ei wneud. Mae’n bwysig iawn bod yn amyneddgar, gwrando ar eu dymuniadau a chymryd pethau ar gyflymdra sy’n iawn iddyn nhw.

Mae’n ddealladwy fod arnoch eisiau eu helpu i wynebu eu hofnau, ond gall fod yn drallodus i rywun os ydynt yn teimlo eu bod yn cael eu gorfodi i sefyllfaoedd cyn eu bod yn barod. Gall hyn waethygu eu gorbryder hyd yn oed.

Ceisiwch ddeall

  • Dysgwch cymaint ag y gallwch am orbryder. Bydd hyn yn eich helpu i ddeall yr hyn maent yn ei brofi.
  • Gofynnwch iddynt am eu profiadau. Gallwch ofyn iddynt sut mae gorbryder yn effeithio arnynt o ddydd i ddydd, beth sy’n ei wneud yn well neu’n waeth. Gall wrando ar eu profiadau eich helpu chi i uniaethu â sut maen nhw’n teimlo.

Byddwch yn garedig, peidiwch â beirniadu… gadewch iddynt wybod y bydd yn mynd heibio, a dywedwch eich bod chi yno iddynt.

Gofynnwch sut gallwch chi helpu

Mae’n bosib bod eich ffrind neu aelod o’r teulu eisoes yn gwybod sut y gallwch chi eu cefnogi – er enghraifft, efallai ei fod yn eu helpu nhw os ydych chi’n eu cymryd allan o’r sefyllfa, i siarad â nhw yn addfwyn neu wneud ymarferiadau anadlu gyda nhw.

Drwy ofyn iddynt beth sydd angen arnynt, neu sut gallwch chi helpu, gallwch eu cefnogi i deimlo fod mwy o reolaeth ganddyn nhw. Mae gwybod bod rhywun yno sy’n gwybod beth i’w wneud os ydynt yn dechrau teimlo’n orbryderus neu’n mynd i banig yn eu helpu nhw i deimlo’n fwy diogel a thawel eu meddwl.

Cefnogwch nhw i gael cymorth

Os ydych chi’n teimlo bod gorbryder eich ffrind neu aelod o’r teulu yn dod yn broblem iddynt, gallwch eu hannog i geisio triniaeth addas drwy siarad â meddyg teulu neu therapydd. Gallwch hefyd:

  • Gynnig eu helpu i drefnu apwyntiad gyda’r meddyg.
  • Cynnig cefnogaeth pan fyddan nhw’n mynychu apwyntiadau.
  • Eu helpu i ymchwilio i fathau gwahanol o gefnogaeth, megis gwasanaethau cymdeithasol neu grwpiau cymorth.

Edrych ar ôl eich hun

Gall fod yn anodd iawn i gefnogi rhywun sydd â phroblem iechyd meddwl – nid ydych ar ben eich hun os ydych chi’n teimlo hyn yn ormod weithiau. Mae’n bwysig cofio edrych ar ôl eich iechyd meddwl eich hun hefyd, fel bod gennych yr egni a’r yr amser sydd arnoch ei angen i helpu.

[Ffynhonnell: mind.org]