Anhwylder Bwyta – Sut alla i helpu?

Efallai y byddwch yn teimlo’n bryderus iawn os ydych yn credu bod gan rywun yr ydych yn agos atynt broblem bwyta.

Gall fod yn anodd gwybod sut i siarad â nhw neu sut i ymdopi â’r newidiadau yn eu hwyliau. Efallai eich bod eisoes wedi ceisio cynnig cymorth iddynt, ond bod y person hwnnw yn anfodlon neu’n methu derbyn cymorth. Gall hyn wneud i chi deimlo’n ddiymadferth ac yn grac.

Mae sawl peth defnyddiol y gallwch chi wneud:

Gadewch iddynt wybod eich bod chi yna

Un o’r pethau mwyaf pwysig y gallwch chi wneud yw gadael i’r person yr ydych yn poeni amdanynt wybod eich bod chi yna, eich bod yn gwrando ac yn gallu eu helpu i ddod o hyd i gymorth. Gadewch y person wybod eu bod yn gallu siarad â chi pan fyddant yn barod.

Ceisiwch beidio â bod yn grac â nhw

Yn fwy na thebyg, byddant eisoes yn teimlo’n euog am sut y mae eu hymddygiad yn effeithio arnoch. Ceisiwch fod mor empathetig ac amyneddgar â phosibl.

Peidiwch â gwneud rhagdybiaethau

Ambell waith mae pobl yn credu bod problemau bwyta ynghlwm â delwedd y corff, neu eich bod yn gallu gweld pa broblemau bwyta sydd gan rywun wrth edrych arnynt. Nid yw hyn yn wir. Os ydych yn dehongli problemau bwyta rhywun mewn ffordd benodol – heb wrando ar y person ei hun – gall gyfrannu at eu teimladau o ddiymadferthwch. Gall hefyd ei wneud yn anoddach iddynt rannu eu hemosiynau anodd ac i ofyn am gymorth.

Cofiwch bod hyd yn oed derbyn bod ganddynt broblem yn cymryd amser

Byddwch yn amyneddgar. Gall gymryd amser hir i rywun dderbyn bod ganddynt broblem ac i ofyn am gymorth. Efallai na fydd y person yr ydych yn poeni amdanynt yn gweld eu patrymau bwyta fel problem. Efallai byddant yn eu gweld fel ffordd o ymdopi â theimladau o gynddaredd, colled, diymadferthwch, hunan-gasineb, diffyg gwerth euogrwydd, neu teimlo fel nad oes ganddynt reolaeth. Gallant fod yn ofn beth fydd gwella yn golygu iddyn nhw a’u corff.

Peidiwch â chanolbwyntio ar eu delwedd a pheidiwch â gwneud sylwadau amdano

Cofiwch nad yw pwysau na delwedd rhywun yn dweud wrthoch chi sut y maent yn teimlo. Mae hyd yn oed sylwadau sydd wedi’u bwriadu mewn ffordd caredig megis “Rwyt ti’n edrych yn iach” yn aml yn gallu achosi teimladau anodd iawn i rywun sydd â phroblem bwyta. Ceisiwch ofyn “Sut wyt ti?” yn lle.

Byddwch yn addfwyn – ni allwch chi orfodi rhywun i newid eu hymddygiad

Gall geisio perswadio, twyllo neu orfodi rhywun i fwyta mwy neu lai eu hachosi i deimlo hyd yn oed yn fwy pryderus neu’n ofn bwyd. Gall hyn wneud iddynt dynnu’n ôl rhagddoch neu geisio hyd yn oed yn fwy i’ch argyhoeddi eu bod yn bwyta’n fwy iach, hyd yn oed os nad ydynt.

Cofiwch eu cynnwys mewn gweithgareddau cymdeithasol

Os yw’r person yr ydych yn poeni amdano yn ei chael hi’n anodd bwyta, trefnwch weithgareddau nad ydynt yn cynnwys bwyd.

Gwnewch amseroedd bwyd mor digynnwrf â phosibl

Peidiwch â gwneud sylwadau am eu dewisiadau bwyd. Gadewch iddynt fwyta’r hyn y maent yn teimlo y gallant fwyta.

Dewch o hyd i ffyrdd diogel o siarad amdano

Mae rhai’n dweud ei fod yn helpu i gyfeirio at eu problemau bwyta yn y trydydd person, er enghraifft “Nid ti yw hynny, dyna’r broblem bwyta sy’n siarad”.

Rhowch gymorth iddynt wrth ddod o hyd i wybodaeth dda, a cheisiwch osgoi gwybodaeth wael

Gall hyn gynnwys chwilio am gymorth ar-lein wrth helpu’r person osgoi gwefannau a fforymau all hyrwyddo arferion bwyta ac ymarfer corff gwael. Gall hefyd fod yn ddefnyddiol iawn i ddarllen straeon a ysgrifennwyd gan bobl sydd â phroblemau bwyta sy’n barod i feddwl am wellhad.

Anogwch nhw i chwilio am gymorth proffesiynol

Os ydynt yn poeni am siarad â’u meddyg, gallwch chi gynnig i fynd â nhw.

Derbyniwch fod gwella’n broses hir

Cofiwch, hyd yn oed os yw eu corff yn edrych yn fwy iach yn gyflym, efallai bydd pethau lawer yn anoddach yn emosiynol. Mae mynd yn ôl i’r arferion gwael yn gyffredin, ac mae hyn yn gallu bod yn dorcalonnus, ond gallwch chi helpu drwy dderbyn hyn fel rhan o’r broses a drwy fod yno iddynt pan fydd pethau’n anodd.

Gofalwch am eich hun

Gall gefnogi rhywun ag anhwylder bwyta fod yn annifyr ac yn flinedig. Mae’n bwysig cofio bod eich iechyd meddwl yn bwysig hefyd, a’ch bod yn haeddu cefnogaeth ar gyfer eich hun hefyd.

[Gwybodaeth o mind.org]



Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.