‘Un yn Ormod’ – Angharad Griffiths (gol.) (detholiad)

Daw’r darn isod o bennod Iola Ynyr yn ‘Un yn Ormod’ (gol. Angharad Griffiths) a gyhoeddir gan y Lolfa. Mae’r gyfrol yn cynnwys profiadau 13 o gyfranwyr yn trafod eu perthynas ag alcohol.

 

Chwalu Tabŵ – Iola Ynyr

Mi nath tabŵ ladd chwaer Nain yn ei chartre ei hun. Roedd hi’n disgwyl, heb fod yn briod, ac roedd wynebu hynny’n gyhoeddus yn fwy o ddychryn na llyncu tabled erthylu ceffyl. Dim ond yn lled diweddar ges i wybod hyn ac mi ddychrynodd o fi – bod rhywbeth mor dreisgar ’di digwydd i berthynas mor agos ac wedi’i guddio am flynyddoedd.

Ddwy flynedd yn ôl, mi oedd meddwl am ladd fy hun yn rhywbeth oedd yn codi fel syniad i finnau hefyd sawl gwaith y diwrnod. Roedd o’n opsiwn oedd yn mynd i ddiweddu fy niodde personol i, a’r hyn roedd pobl eraill yn gorfod ei ddiodde o fy herwydd i.

Mi o’n i’n sylweddoli’n llwyr ’mod i’n alcoholig ond yn methu meddwl am wynebu bywyd heb yfed, ac mi oedd arna i ofn cyfadde hynny.

Mi oedd ’na rai unigolion yn trio fy ‘sobri’ trwy godi cywilydd, bychanu ac edliw ymddygiad anfaddeuol. Roedd eu diffyg dealltwriaeth o fy mhoen meddwl a chorfforol yn fy ynysu ymhellach. Roedd eu bwriad yn dod o le da, ond doedd eu lleisiau ’mond yn edliw fy llais mewnol fy hun fy mod i’n ddiwerth ac yn boen.

Un llais dorrodd drwy’r gwymp o ddinistr llwyr oedd geiriau llawn cariad fy merch hynaf, Erin. “Mam, ty’d i gysgu hefo fi’n fama,” oedd ei chysur ar ôl i mi gael fy rhyddhau o’r ddalfa am ymddygiad ymosodol na chafodd ei erlyn ymhellach, ymddygiad oedd yn gwbl groes i fi’n hun naturiol. Dim beirniadu, na ffieiddio, na chwestiynu. Dim ond derbyn y sefyllfa a gafael yn dynn, dynn.

Yn ffodus, mi nath fy mhlant, fy ffrindiau agosaf, aelodau o fy nheulu ac asiantaethau proffesiynol a chymdeithas o bobl gefnogol fy argyhoeddi mai sâl oeddwn i.

Doedd cywilyddio a dwrdio ddim wedi helpu o gwbl. Doedd “Jyst stopia yfed!”, “Callia!”, “Busnas yfad ’ma’n rhemp” a “Sti… ma hyn yn mynd yn rhy bell!” yn gwneud dim mwy na chynyddu’r ysfa i ddifa fy hun. A hynny am mai tabŵ oedd yn rheoli’r sefyllfa.

Mi oedd bywyd mor dywyll, y ffieiddio ataf fy hun mor gry, a’r boen wrth lusgo o un cegaid o win i’r llall yn lladd pob gronyn o bleser byw. Nid dewis hyn o’n i, ond gorfod ei neud o i ymateb i boen meddwl a thrio’i lleddfu. Mi oedd yr yfed ei hun yn mynd yn anoddach wrth i ’nghorff i wneud popeth o fewn ei allu i drio’i wrthod, y prynu’n mynd yn anoddach i’w gelu a’r poteli gweigion yn fwy amlwg ym mhob twll a chornel o’r tŷ.

Sut ddoth hi i hyn?

Mi o’n i’n sylweddoli ’mod i’n gweld y byd yn wahanol ers pan o’n i’n ifanc iawn, ond yn beio bod yn unig blentyn fel y rheswm dros deimlo mor ynysig. Mi o’n i wedi hen sylweddoli ’mod i’n poeni mwy na phlant eraill, yn dadansoddi pethau na fyddai plant eraill wedi eu rhag-weld ac yn gosod disgwyliadau arnaf fy hun na fyswn i byth yn gallu eu cyrraedd. Mi fyddai ymgais i ail-greu gweithgaredd Blue Peter yn troi’n ffieiddio fy mlerwch a’m hanallu personol. O fewn chwinciad mi fyddai rhwystredigaeth milain yn fy llorio, ac at feddylfryd y ferch saith oed yna ro’n i’n dychwelyd mewn cyfnodau anodd weddill fy mywyd. Ac roedd clywed aelodau o ’nheulu’n cyfeirio ata i fel ‘Iola fach’ neu ‘Io bach’, er gwaetha’r anwyldeb, yn fy niffinio i fel yr hogan fach rwystredig, chwithig, oedd yn ddibynnol ar bobl eraill i fy ‘achub’ i.

Ond mae wynebu fy ngwirionedd, darganfod fy mreuder a derbyn bod gofyn am gefnogaeth yn arwydd o ddewrder wedi dechrau’r broses o ddod yn nes at y ‘fi’ fel oedolyn, yn hytrach na bod yn sownd yn y ferch fach ofnus, saith oed. Mi alla i bellach dderbyn nad oes raid i mi drio plesio pawb a bod yn hogan ‘dda’. Mi alla i fod yn driw i fi’n hun heb ofni pechu a chodi cywilydd. Mi alla i fynegi fy hun, ’mond i mi bwyllo ac ystyried yn ofalus nad ydw i’n niweidio fy hun na phobl eraill yn fwriadol. Mi alla i ddewis drosta i fy hun yn hytrach na gwneud be mae pobl eraill yn disgwyl i mi ei neud, achos dydw i ddim yn trio dianc oddi wrtha i fy hun ddim mwy. Ac mae hynny’n anodd i bobl ei dderbyn a sylweddoli bod fy mhenderfyniadau i’n rhai sy’n iawn ac yn rhai y dylid eu parchu. Wrth gwrs, mi fydda i’n dal i wneud camgymeriadau ond dyna ydi fy hawl i!

Cariad nath fy achub i, cariad gan bobl oedd yn fy nabod i’n ddigon da i wbod ’mod i’n gallu ymddiried yn eu ffydd nhw bod yna ddaioni yndda i.

Y ffydd honno fyddai’n fy argyhoeddi ei bod hi’n werth trio newid. Fod gynna i rinweddau, fod gynna i rywbeth i’w gynnig, ’mod i’n llawer mwy na’r tywyllwch oedd wedi mygu pob gobaith.

Cyhoeddir Un yn Ormod gan y Lolfa a gellir ei brynu o’ch siop lyfrau leol neu yma am £8.99