‘Tu ôl i’r Wên’
Diolch yn fawr i Iestyn Gwyn Jones am gyfansoddi’r gân hon i gyd-fynd â’n podlediad newydd, ‘Tu ôl i’r wên’, fydd yn cael ei lansio ar 1 Tachwedd.
Geiriau’r gân
‘Di colli ffordd yn llwyr!
Yn dal i aros am ddim byd.
A does dim golau dydd
Yn aros ochr draw i’r llwybr
Ar hyn o bryd.
Ond cyn iddi fynd rhy hwyr
Dyw e ddim yn rhwydd
i siarad ac i rannu dy feddyliau di.
Nid fel yma fydd hi.
Cofia di!
Tu ôl i’r wên mae gweld yn glir
Mae bwrw ymlaen yn straen drwy’r anialdir.
Cym dy bwyll
Cyn dechrau dilyn dy draed.
Tu ôl i’r wên mae gweld dy werth
Ac ynddo ti mae’r nerth i symud ‘mlaen
Cyn ti droi fydd fory’n agosáu.
Yn aros am y wawr
Yn chwilio’n daer i ffeindio’r hawl
I benderfynu, dal i gredu, dal i sefyll fyny.
A weithie’n sefyll ddim mor dal
Mae’n iawn.
Ond cofia bod ti’n fwy na hynny.
Ond cyn iddi fynd rhy hwyr
A dyw e ddim yn rhwydd
i siarad ac i rannu dy feddyliau di.
Nid fel yma fydd hi.
Ond cofia di.
Bod gwell i ddod yn meddwl dim
Mae’n anodd i esbonio hyn.
Oh, tu ôl i’r wên mae’n gyfyng.
Cofia di!
Iestyn Gwyn Jones