PODLEDIAD: Tu ôl i’r wên

Podlediad newydd gan meddwl.org ac Academi Berfformio Caerdydd sy’n rhoi cyfle i bobl ifanc drafod eu profiadau personol o salwch meddwl a phrofiadau anodd eraill.

Mae chwe phennod yn y gyfres, pob un yn canolbwyntio ar elfen wahanol; o alar i anhwylderau bwyta, o orbryder i iselder, rhywioldeb a rhywedd, bwlio a mwy.

Cliciwch yma i danysgrifio a lawrlwytho’r penodau ar blatfformau eraill.

 

Gwybodaeth am y podlediad

Tu ôl i’r wên – Podlediad newydd meddwl.org yn rhoi llwyfan i bobl ifanc i sgwrsio am iechyd meddwl.

Ar y 1af o Dachwedd, bydd elusen meddwl.org yn lansio ‘Tu ôl i’r wên’, podlediad Cymraeg newydd sbon sy’n rhoi cyfle i bobl ifanc Cymru i drafod eu profiadau personol o salwch meddwl a phrofiadau anodd eraill. Mae chwe phennod yn y gyfres, pob un yn canolbwyntio ar elfen wahanol; o alar i anhwylderau bwyta, o orbryder i iselder, rhywioldeb a rhywedd, bwlio a mwy.

Meddai Arddun Rhiannon o meddwl.org;

“Mae meddwl.org yn falch iawn o allu lansio podlediad iechyd meddwl newydd. Mewn byd sydd yn gallu bod mor brysur, roeddem yn teimlo fel bod llais ein pobl ifanc ni ddim yn cael ei glywed fel y dylai.

Bwriad ‘Tu ôl i’r wên’ yw i roi platfform i bobl ifanc siarad yn agored am bynciau sydd yn bwysig iddynt, a darparu gofod iddynt rannu eu profiadau personol ag eraill. Er bod y gyfres wedi’i hanelu at bobl ifanc, y gobaith yw y bydd yn fudd i bawb – yn gymorth ac yn addysgiadol. Hoffem ddiolch yn fawr i’r holl gyfranwyr am eu parodrwydd i drafod mor onest.”

Mae’r podlediad yn bosibl oherwydd cefnogaeth gan Academi Berfformio Caerdydd, a oedd yn awyddus i gefnogi gwaith meddwl.org ac yn awyddus i ddatblygu adnodd i helpu pobl ifanc. Mae Elin Llwyd yn un o gyfarwyddwyr yr Academi, yn actores ac yn gantores a hi hefyd sy’n cyflwyno’r podlediad.

“Dwi’n ffodus iawn o gael gweithio’n wythnosol gyda phobl ifanc ysbrydoledig trwy fy ngwaith gydag ABC. Mae deall, gwarchod ac annog trafodaethau agored ynglyn â’u hiechyd meddwl o hyd wedi bod yn bwysig i mi ac yn ran annatod o’n sesiynau. Gwnaeth y cyfnod clo amlygu i mi fod y gefnogaeth oedd ar gael i’r bobl ifanc yma, yn enwedig trwy gyfrwng y Gymraeg, yn brin iawn. Dyma eni egin syniad y podlediad”

Roedd y disgyblion eu hunain yn rhan greiddiol o ddatblygiad y podlediad ac yn frwdfrydig iawn i gyfrannu. Fel yr esbonia Elin Llwyd, mae hi wedi bod yn agored iawn gyda nhw am ei brwydrau personol gyda’i hiechyd meddwl; “Dwi wastod wedi bod yn agored iawn gyda’r disgyblion am fy mrwydyr personol gyda fy iechyd meddwl, yn ogystal â’r ffaith ‘y mod i’n difaru peidio siarad yn fwy agored am y peth pan yn iau. Dwi wir yn gobeithio y gwneith gwrando ar y podlediad annog y gwrandawyr i siarad am eu teimladau ac i helpu normaleiddio’r sgwrs iechyd meddwl ymysg pobl ifanc yn gyffredinol”.

Galar yw thema’r bennod gyntaf, ac yn ystod y sgwrs gydag Elin Llwyd, cawn glywed gan ddau berson ifanc sydd wedi colli rhiant. Clywn am brofiad torcalonnus Sara Maredudd a gollodd ei Mam yn ei harddegau, a phrofiad emosiynol yr actor Rhys Bidder a gollodd ei Dad pan roedd yn 5 mlwydd oed. Meddai Rhys;

“Ni’n gweld dynion yn llefen ar y cae rygbi a dyw hynny’n ddim byd i gymharu â galar. Mae dangos emosiwn yn gryfder ac mae’n bryd inni normaleiddio’r peth”.

Yn ystod y bennod am Anhwylderau Bwyta, cawn glywed sut y bu bron i Holly Rhys-Ellis golli ei bywyd i’r cyflwr pan roedd hi’n 11 oed;

“Wnaeth y Dr ddweud wrth Dad mai pythefnos oedd gen i ar ôl os nad o’n i’n fodlon bwyta”.

Yn yr un rhaglen cawn glywed sut mae Lewis Owen yn rhoi bai ar y cyfryngau cymdeithasol a’r cyfryngau am hybu anhwylderau bwyta;

“Mae na hashtags sy’n rhannu tips gyda chi am sut i beidio bwyta a chuddio hynny. Mae’r cyfryngau cymdeithasol a rhaglenni teledu wedi bwydo fy anhwylderau bwyta i. Mae’n beryglus iawn i bobl ifanc”.

Daw yn amlwg yn ystod gyfres bod cymdeithas yn rhoi pwysau gwahanol ar ferched a bechgyn. Yn ystod y bennod am iselder, cawn glywed sut mae Gruff Jones o’r band Sŵnami a’r cerddor a’r disgybl ysgol ifanc Iestyn Jones o Gaerdydd, wedi dioddef ers eu harddegau cynnar, y ddau wedi profi’r stigma sy’n bodoli ynghylch bechgyn ifanc sy’n dioddef o salwch meddwl. Meddai Iestyn Jones,

“Fi’n casau’r dywediad “Man up”, dywediad twp, mae’n ridiculous bod gymaint o bwyse ar bechgyn ifanc fel ni i fod yn gryf. Mae angen chwalu’r stigma”.

Iestyn Jones sydd wedi cyfansoddi’r gerddoriaeth a’r gân Tu ôl i’r wên yn arbennig ar gyfer y podlediad hefyd.

Yn ogystal â rhannu profiadau, mae’r cyfranwyr ifanc yn cynnig cymorth a syniadau i helpu pobl ifanc sy’n mynd trwy brofiadau tebyg, ac hefyd yn cynnig cyngor defnyddiol i bobl sy’n ceisio helpu eraill sy’n dioddef. Meddai Sara Maredudd;

“Os ydech chi’n poeni am rhywun, cysylltwch efo nhw. Peidiwch poeni am beth i ddweud neu boeni am ddweud y pethe anghywir, mae cysylltu a dweud rhywbeth yn golygu gymaint i’r person sy’n dioddef”.

Bydd penodau unigol y podlediad Tu ôl i’r wên ar gael bob Dydd Llun o’r 1af o Dachwedd. Gallwch wrando ar a lawrlwytho’r podlediad o Spotify, Apple, Amazon, Google neu eich ap podlediadau arferol.