Therapi Grŵp

Group Therapy

Mae therapi grŵp yn fath o therapi seicolegol sy’n digwydd gyda grŵp o bobl gyda’i gilydd, yn hytrach na sesiynau un-i-un.

Gall dderbyn therapi mewn grŵp fod yn fuddiol gan ei fod yn cynnig rhwydwaith o gefnogaeth ac yn gyfle i gyfarfod â phobl eraill sydd mewn sefyllfaoedd tebyg.

Gyda chymorth y therapydd ac aelodau eraill y grŵp, cewch eich annog i rannu eich profiadau a gweithio ar ddeall eich hun yn well.

Os nad oes arnoch eisiau siarad neu gymryd rhan yn y gweithgareddau, nid oes rhaid i chi wneud. I rai pobl, mae’n cymryd rhai wythnosau yn eistedd a gwrando cyn eu bod yn teimlo’n barod i siarad am eu profiadau eu hunain, felly ni ddylech deimlo pwysau i wneud unrhyw beth nad oes arnoch eisiau ei wneud.

(Ffynhonnell: Counselling Directory)