Ysbyty

Hospital

Mewn rhai achosion, gall meddygon proffesiynol benderfynu bod angen i ni dreulio cyfnod mewn ysbyty er mwyn sicrhau’r cyfle gorau am wellhad llawn.

Bydd nifer o’r triniaethau uchod hefyd yn cael eu defnyddio tra byddwn yn yr ysbyty.

Tra bod cyfnod mewn ysbyty yn fuddiol iawn ac yn angenrheidiol mewn nifer o sefyllfaoedd, gall hefyd fod yn gyfnod ddigon anodd i nifer ohonom; cyfnod o addasu. Ac mae’r un peth yn wir am y cyfnod yn dilyn dychwelyd adref o’r ysbyty.