Gorbryder Cymdeithasol

Social Anxiety

Gorbryder Cymdeithasol yw ofn sefyllfaoedd cymdeithasol sy’n cynnwys cyfathrebu â phobl eraill. 

Mae nifer o bobl yn poeni cyn cyfarfod â phobl newydd, ond unwaith y byddant gyda nhw, gallant ymdopi a hyd yn oed mwynhau’r sefyllfa.

Fodd bynnag, mae’r rhai sydd â gorbryder cymdeithasol yn mynd yn bryderus iawn am sefyllfaoedd fel hyn. Ar y gorau, ni allent eu mwynhau ac, ar y gwaethaf, efallai y byddant yn eu hosgoi yn gyfan gwbl.

Meddyliau a Theimladau

  • pryderu am fod yng nghanolbwynt y sylw
  • poeni fod pobl yn edrych arnoch
  • ofn cael eich cyflwyno i eraill
  • ofn bwyta neu yfed yn gyhoeddus
  • poeni llawer am wneud ffŵl o’ch hunain o flaen eraill
  • gorfeddwl am yr holl bethau allai fynd o’i le
  • teimlo fod pawb yn edrych arnoch chi
  • yn dilyn sefyllfa gymdeithasol, poeni am sut y gwnaethoch ddelio â’r sefyllfa a gorbryderu am y ffordd y gallech chi fod wedi ymddwyn neu siarad yn wahanol

Corfforol

  • ceg sych
  • chwysu
  • profi crychguriadau’r galon (y teimlad fod y galon yn curo’n gyflym iawn a / neu’n afreolaidd)
  • gwrido
  • siarad ag atal
  • crynu ac ysgwyd
  • anadlu’n rhy gyflym
  • pyliau o banig

Effaith gorbryder cymdeithasol

Gall byw gyda gorbryder cymdeithasol fod yn dorcalonnus iawn, oherwydd gall pobl eraill wneud nifer o bethau sy’n amhosibl i chi, yn hawdd. Gallech feddwl eich bod yn unigolyn eithaf diflas ac fe allwch boeni y bydd eraill yn meddwl hyn hefyd. Gall eich gwneud yn or sensitif ac yn amharod i boeni pobl eraill, hyd yn oed pan ddylech chi. Mae’n hawdd gweld sut y gall hyn wneud i chi deimlo’n isel neu’n anhapus. Gall hyn wneud y ffobia cymdeithasol yn waeth.

Mae rhai pobl yn gofidio gymaint am eu ffobia cymdeithasol fel eu bod yn datblygu iselder. Efallai y bydd hwn angen triniaeth ei hun, ar wahân i ffobia cymdeithasol. Os yw rhywun yn gyson yn osgoi lleoedd lle mae pobl yn cwrdd, fe allen nhw yn y diwedd ddatblygu ofn o’r lleoedd hynny hyd yn oed pan fydd neb yno.

Fe all eraill ddefnyddio alcohol, cyffuriau a thawelyddion gan y meddyg i ymdopi gyda’u symptomau ac efallai dod yn ddibynnol arnyn nhw.

A ellir ei drin?

Mae yna nifer o ffyrdd gwahanol o helpu pobl gyda gorbryder cymdeithasol. Fe all y rhain gael eu defnyddio ar eu pen eu hunain neu gyda’i gilydd, yn dibynnu ar anghenion yr unigolyn. Mae’r rhain yn cynnwys dulliau hunan-gymorth, triniaethau seicolegol a meddyginiaeth.

Ffynhonnell: serene.me.uk (nid yw’r wefan yn bodoli bellach)