Wedi i chi brynu’r eitemau, byddwch yn derbyn dolen i lawrlwytho copïau PDF o’r lluniau i’w hargraffu.
Gwybodaeth
Mae ymchwil yn awgrymu y gall lliwio, a therapi celf yn gyffredinol, fod yn fuddiol iawn i bobl o bob oed.
Yn ogystal â rhoi egwyl a chyfle i chi ymlacio, gall lliwio helpu drwy:
- Codi eich hwyliau a lleihau lefelau gorbryder a straen;
- Eich annog i ddatblygu technegau ymdopi positif ac ymlaciol i ddelio â meddyliau a theimladau anodd;
- Tynnu eich sylw oddi ar feddyliau negyddol a phryderus. (gwybodaeth: happiful.com)











