Pecyn i athrawon – ‘Mae gan bawb iechyd meddwl’

Am ddim

Anelir yr animeiddiad ‘Mae gan bawb iechyd meddwl‘ a’r pecyn cymorth cysylltiedig at ddisgyblion uwchradd Cyfnod Allweddol 3 (Blynyddoedd 7-9). Fe’u datblygwyd gan Ganolfan Genedlaethol i Blant a Phobl Ifanc Anna Freud mewn cydweithrediad â phobl ifanc, athrawon ac arbenigwyr iechyd meddwl, ac fe’u haddaswyd i’r Gymraeg gan meddwl.org.

Mae’r Pecyn Cymorth ar gyfer staff ysgol yn cynnwys:

  • Cynllun Gwers a Chyflwyniad Powerpoint
  • Cynllun Gwasanaeth a Chyflwyniad Powerpoint
  • Adnoddau ac ymarferion dosbarth amrywiol

Wedi i chi ei brynu, byddwch yn derbyn e-bost gyda dolen i lawrlwytho’r pecyn. 

Ni chodir tal am y pecyn ond mae croeso i chi wneud cyfraniad ariannol drwy’r ddolen hon i gefnogi ein gwaith.