Hunangofiant y gantores dalentog Non Parry o’r grŵp pop Eden, a chyfrol sy’n mynd y tu ôl i fyd glamyrys y sîn bop gan drafod iechyd meddwl yn onest iawn. Fe fydd hefyd yn trafod heriau a salwch ei gŵr, y comedïwr Iwan John, a’r effaith gafodd blynyddoedd o ddisgwyl am ei drawsblaniad ar y teulu cyfan.
Rhagor o wybodaeth
Daeth Eden ar y sin pan oedd Non ond yn ddwy ar hugain oed. Dros nos roedd hi’n wyneb cyfarwydd, yn gwireddu breuddwyd plentyndod gyda’i ffrindiau gorau, Emma a Rachael. Ond y tu ôl i’r wên a’r gytgan ‘Paid â Bod Ofn’, roedd yna Non wahanol iawn. Yn 2018 penderfynodd ei bod hi’n amser cyfadde’r gwir: roedd ofn lot fawr o bethau arni. Wedi blynyddoedd o ddiodde problemau iechyd meddwl yn dawel, roedd digon yn ddigon. Dyma ei stori o fod yn blentyn ansicr yn diodde o OCD a gorbryder i berfformio o flaen miloedd.
ISBN: 9781800991156 (1800991150)
Dyddiad Cyhoeddi: 20 Hydref 2021
Cyhoeddwr: Y Lolfa
Fformat: Clawr Meddal, 215×140 mm, 160 tudalen
I weld rhagor o lyfrau iechyd meddwl Cymraeg, ewch i’r dudalen hon.
Wrth brynu llyfrau drwy siop y wefan hon, bydd meddwl.org yn derbyn 33.33% o bris y gwerthiant.