‘Mam lan a lawr’

£6.99

Mewn stoc

Mae byw gyda Mam fel teithio ar reid mewn ffair. Weithiau mae hi’n llawn cyffro ac egni, dro arall mae’n dawel a di-hwyl. Ond Mam yw hi drwy’r cyfan, ac ry’n ni ar y daith hon gyda’n gilydd. Stori sy’n helpu plentyn i ddeall beth sy’n achosi anhwylder deubegwn a sut allan nhw ddysgu byw gyda rhywun sydd â’r anhwylder hwnnw.

I blant sy’n cael eu magu gan riant ag anhwylder deubegwn, gall bywyd fod yn ansicr a gofidus. Gyda help tudalennau llawn gwybodaeth sydd wedi ei nodi’n glir a syml, mae’r stori hon yn ein helpu i ddeall beth sy’n achosi anhwylder deubegwn a sut allwn ni ddysgu byw gyda rhywun sydd â’r anhwylder hwnnw. Datblygwyd y llyfr mewn cydweithrediad agos â theuluoedd sydd â rhiant ag anhwylder deubegwn, a’i greu mewn cydweithrediad â’r Wellcome Trust.

Rhagor o wybodaeth

ISBN: 9781913733766 (1913733769)
Dyddiad Cyhoeddi: 12 Mawrth 2021
Cyhoeddwr: Graffeg

Fformat: Clawr Meddal, 250×250 mm, 34 tudalen

Rhan o’r cynllun ‘Darllen yn Well’

I weld rhagor o lyfrau iechyd meddwl Cymraeg, ewch i’r dudalen hon.

Wrth brynu llyfrau drwy siop y wefan hon, bydd meddwl.org yn derbyn 33.33% o bris y gwerthiant.