‘Goresgyn dicter a thymer blin’

£12.99

Allan o stoc

Mae tymer flin a hyd yn oed ysbeidiau achlysurol o dymer ddrwg yn gallu creu anawsterau yn eich perthynas â ffrindiau, teulu a chyd-weithwyr gan eich gadael yn teimlo’n anhapus ac yn lluddedig. Os yw hynny’n wir yn eich achos chi, gall y llyfr hwn fod o gymorth mawr i chi.

Mae William Davies yn esbonio beth sy’n ein gwneud ni’n ddig a beth allwn ni ei wneud i atal hynny. Mae technegau seicolegol cyfoes yn cynnig dull cadarnhaol o fynd ati gyda nodau hirdymor mewn golwg, ac yn dangos sut gallwch chi fynd i’r afael â sefyllfaoedd a fyddai’n dreth ar unrhyw un!

  • Mae’n cynnwys rhaglen hunangymorth gyflawn a thaflenni monitro
  • Mae’n esbonio pam mae tymer flin a dicter yn datblygu a beth allwn ni ei wneud yn eu cylch
  • Mae’n disgrifio sut i wella ansawdd cyffredinol eich bywyd am byth
  • Mae’n cynnig enghreifftiau ac astudiaethau achos esboniadol
  • Mae’n cynnwys canllaw cywiro diffygion grymus

Rhagor o wybodaeth

ISBN: 9781784619237 (178461923X)
Dyddiad Cyhoeddi: 4 Awst 2020
Cyhoeddwr: Y Lolfa

Fformat: Clawr Meddal, 198×130 mm, 396 tudalen

Rhan o’r cynllun ‘Darllen yn Well’

I weld rhagor o lyfrau iechyd meddwl Cymraeg, ewch i’r dudalen hon.

Wrth brynu llyfrau drwy siop y wefan hon, bydd meddwl.org yn derbyn 33.33% o bris y gwerthiant.