‘Canllaw i oroesi’r cyfryngau cymdeithasol’

£6.99

Mewn stoc

Mae’r canllaw cyfeillgar hwn yn dy dywys drwy bob agwedd ar reoli bywyd, perthnasoedd ac iechyd meddwl ar y cyfryngau cymdeithasol. Bydd yn dy helpu i fynd i’r afael â phopeth o osodiadau preifatrwydd, negeseuon uniongyrchol a bwlio ar-lein i hidlyddion gwella pryd a gwedd, dylanwadwyr a newyddion ffug.

Pa un a wyt ti’n defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol ai peidio, mae’n gallu bod yn anodd anwybyddu’r byd ar-lein sydd o’n cwmpas ym mhobman. Weithiau, mae’n bosib y byddi di, neu bobl rwyt ti’n eu hadnabod, yn treulio mwy o amser ar y cyfryngau cymdeithasol nag yn gwneud dim byd arall! Bydd y llyfr hwn yn ateb cwestiynau am bob math o agweddau gwahanol ar y cyfryngau cymdeithasol, y da a’r drwg, yn ogystal â sut i ofalu dy fod yn cael ychydig o le ac amser oddi wrth y cyfan pan fydd angen hynny. Efallai y bydd hefyd yn gallu dy helpu gydag unrhyw bynciau dwyt ti ddim yn gyfforddus yn chwilio amdanyn nhw ar-lein, neu yn eu trafod gyda ffrindiau neu deulu

Rhagor o wybodaeth

ISBN: 9781800993594 (1800993595)
Dyddiad Cyhoeddi: 28 Ebrill 2023
Cyhoeddwr: Y Lolfa 

Fformat: Clawr Meddal, 199×131 mm, 304 tudalen

Rhan o’r cynllun ‘Darllen yn Well’

I weld rhagor o lyfrau iechyd meddwl Cymraeg, ewch i’r dudalen hon.

Wrth brynu llyfrau drwy siop y wefan hon, bydd meddwl.org yn derbyn 33.33% o bris y gwerthiant.