Y Gêm Fawr

Mae bywyd yn medru teimlo fel gêm o wyddbwyll ar adegau. Plotio tri symudiad ymlaen yn hytrach na chanolbwyntio ar y symudiad presennol. Pen lawr fel ‘Hungry Hippo’, dim amser i bwyllo. Neb yn sylwi ar y rheini sydd yn diodde’ tu fewn.

‘Guess Who’?

Difrodwyd y bocs nawr ag yn y man. Teimlai weithiau fel bod y darnau ar chwâl, fel bod y dîs yn glanio ar un wedi pob tafliad. Y siwrne rownd y bwrdd yn un llafurus, ‘Go To Jail’ bob tro. Dy ymennydd yn ‘Scrabble’, llond dwrn o lafariaid yn dy bwyso i lawr, dim geiriau i ddisgrifio. Mae ceisio datrys y broblem yn teimlo fel chwarae gêm o ‘Connect 4’ gyda’r cylchoedd ar hap, dim patrwm yn perthyn iddynt, yn styc yn y grid. Lan yr ysgol un funud ac wedyn llithro lawr cefn y neidr i’r gwaelod yr eiliad nesa’. Efallai taw’r blocyn olaf sydd yn dymchwel y tŵr ‘Jenga’, ond mae pob darn a thynnwyd yn cyfrannu at y gwymp.

Mae diodde’ gyda salwch iechyd meddwl yn medru ‘neud i ti teimlo’n ddi-werth, fel dy fod yn llai haeddiannol o heddwch nag eraill. Mae modd ail-adeiladu unrhyw strwythur. Mae’r geiriau i gyd yn y cwdyn. Rhoddir y Brenin a’r Gwerinwyr nôl yn yr un bocs wedi’r gêm wyddbwyll gwpla. Nid dy salwch wyt ti ond rhywun sydd yn diodde’ o’r salwch. Gwyneba dy nadroedd. Mae modd ei dieneidio. Daw cryfder o hynny. Paid ag anghofio hynny.

Rhai o atgofion melysa’ fy mywyd yw chwarae gemau bwrdd gyda ffrindiau a theulu, yn chwerthin, yn cysylltu. Dydy’r mwynhad ddim yn dod o gywirdeb y chwarae ond o rannu’r profiad. Llawn yw dy focs bob amser.

Dyma fy stori i:


Rhodri Jones