Unigrwydd yng nghefn gwlad: fy mhrofiad i
Mae byw yng nghefn gwlad Cymru yn… ddelfrydol. Pob tro rydw i’n gyrru gartre trwy’r mynyddoedd, galla’i ddim credu base unrhyw un eisiau byw unrhyw le arall.
Symudes i nôl i Geredigion pan roeddwn i’n 23. Roedd e’n rhyw fath o quarter life crisis falle. Doeddwn i ddim yn gwybod beth oeddwn i am wneud gyda fy mywyd – roeddwn i wedi llusgo fy hunan trwy gradd doeddwn i ddim yn dda iawn ynddo, roeddwn i wedi cyrraedd pwynt lle roeddwn i’n casáu fy swydd gymaint bod rhaid i fi adael, a doedd dilyn fy mreuddwydion ddim yn mynd i dalu fy rhent. Felly, nôl at mam a dad amdani.
Wrth ddychwelyd nôl i fy ngwreiddiau, sylweddolais i gymaint roeddwn i wedi gweld eisiau bod nôl ar y fferm. Pan roeddwn i’n blentyn, roeddwn i wedi cymryd mantais o’r ffordd yna o fyw – cyfleoedd i fod allan yn yr awyr iach, y cyfle i archwilio pryd bynnag roeddwn i mhoen, bod gyda fy anifeiliaid ac ail feddwl beth sydd wir yn bwysig yn fy mywyd.
Am y tro cyntaf mewn blynyddoedd, roeddwn i wir yn hapus.
Ond wrth i amser basio, dechreuais i sylweddoli bod unigrwydd wedi dechrau cropian mewn i fy meddylfryd.
Doedd fy ffrindiau ddim yn byw’n lleol rhagor, felly roedd wythnosau – weithiau misoedd – yn pasio cyn i fi weld nhw. Roedd gen i ddiddordebau gwledig fel marchogaeth fy ngheffylau felly ymunes i â’r clwb marchogaeth lleol, ond os oes rhywbeth yn sicr am bobl sy’n cadw anifeiliaid – mae nhw’n brysur rownd y cloc! Felly roedd fy mywyd cymdeithasol wedi jyst… dod i ben.
Mwy nag unrhyw beth, roeddwn i’n teimlo’n siomedig am fod yn unig, achos dim ond hen bobl sy’n dioddef unigrwydd, nage?
Roedd pethau’n pwyso arna i yn feddyliol – unigrwydd, ond hefyd y ffaith fy mod i ddim wedi prosesi pethau yn fy ngorffennol oedd wedi cael effaith arna i. Am rhy hir, roeddwn i wedi esgus fy mod i jyst gallu anghofio, neu adrannu’r atgofion yna mewn i focs yng nghefn fy meddwl. Ond wrth i bob dim dechrau adeiladu a chrynhoi, dechreuais i weld newid yn fy ymddygiad – newid doeddwn i ddim yn hoffi. Roeddwn i’n ynysig, yn sarrug a wedi rhoi’r gorau i geisio gweld y positif mewn unrhyw sefyllfa. Roeddwn i eisiau cysgu o hyd a heb ddim brwdfrydedd i wneud y pethau roeddwn i arfer wedi caru. Roedd fy rhieni’n gallu gweld y newid ac eisiau gwybod sut i helpu, ond palles i drafod unrhyw beth gyda nhw, achos base dweud y geiriau wedi meddwl bod fy iselder yn bodoli ac yn wir.
Un diwrnod, penderfynais i ofyn am help, ac yna newidiodd fy mywyd am byth. Es i i’r doctor ac esbonio fy symptomau, ac awgrymodd fy GP bod angen therapi arna i. Erbyn hyn, mi faswn i wedi mynd i swyddfa’r therapist yn syth pe bai’r cyfle gen i, achos roeddwn i wedi blino’n llwyr o deimlo fel rhywun gwahanol.
Roedd therapi siarad yn hanfodol i welliant fy iechyd meddwl. Dim ond llond llaw o sesiynau roedd angen arna i yn y diwedd, ond wnaethon nhw heb os nac oni bai, trawsnewid fy mywyd. Wrth gwrs, cymerodd hi amser hirach i fi hollol ddychwelyd i’r ferch roeddwn i arfer bod, ond roedd rhannu fy mhroblemau yn gam enfawr i sylweddoli, actually dydy fy mhroblemau i ddim yn unigryw. Mwy na unrhyw beth, doeddwn i ddim ar fy mhen fy hun.
Mae’r gair ‘siarad’ yn un syml, ond weithiau dyna yw’r her mwya.
Mae rhoi mewn i eiriau sut rwyt ti’n teimlo ac yna dweud hynny gyda cheg dy hunan yn gamp pan rwyt ti’n dioddef gyda dy iechyd meddwl, ond cofiwch… mae yna bobl sydd eisiau gwrando i ti. Falle bod siarad i dy deulu, neu dy ffrindiau yn teimlo fel gormod – yn y sefyllfa yna, edrychwch am elusen neu gefnogaeth proffesiynol. Mae nhw yna i helpu ni.
Tro dwetha roeddwn yn A&E (fel merch ceffylau, ‘dwi yna rownd y rîl), daeth ffermwr i’r dderbynfa, yn llusgo’i goes (roedd e mewn welîs ac yn defnyddio cordyn bêls i ddal ei felt gyda’i gilydd, felly doedd dim amau mai ffermwr oedd e!).
“Mae buwch wedi cicio fi yn fy nghoes,” dywedodd e wrth y derbynnydd, yn ddigon uchel i bawb cael clywed.
“Pryd digwyddodd hyn?” gofynnodd hi.
“Dydd Sadwrn dwethaf,” wedodd e. Roedd pawb yn yr ystafell yn syllu arno fo a’i goes oedd, wrth edrych arni, mewn siâp ofnadwy.
“Pump diwrnod yn ôl? Pam na ddes ti’n gynt?”
“Doedd dim amser gen i,” wedodd o.
Mae’r rhan fwyaf o ffermwyr, fel fy nghyd-glaf yn yr A&E, bron byth yn blaenoriaethu eu hiechyd nhw ei hunain. Mae rhywbeth arall angen gwneud, neu s’dim eisiau creu ffws. Ond y broblem gyda hynny yw, yr hirach rydych chi’n gadael y broblem, y fwy mae’n gwaethygu.
Mae’n iawn i ffermwyr rhoi eu hunain yn gyntaf. Mae’n iawn i nhw ddweud “chi’n gwybod beth, dydw i ddim yn oce”.
Normaleiddio hynny dylse bod y brif blaenoriaeth i bawb yn y diwydiant amaeth dros y tymor hir.
Melanie Owen
Bydd Melanie yn cymryd rhan yn ein trafodaeth ‘Iechyd Meddwl ac yn y byd amaeth’ yn yr Eisteddfod ar ddydd Sadwrn, 6 Awst am 12pm ym Mhabell y Cymdeithasau 1.
Mae Tir Dewi ac Ymddiriedolaeth DPJ yn darparu cefnogaeth i’r rhai sy’n gweithio yn y byd amaeth.