Trichotillomania: bwgan y ffenomenon o dynnu gwallt
‘Sara Y Gwallt’ – dyna fydda enw fy nghymeriad mewn ffilm Tarantinoesque, dwi’n tybio, a hynny gan fod gen i wallt anghyffredin iawn.
Mae gen i Syndrom Waardenburg Math 1, sef cyflwr genetig prin sy’n cael ei achosi gan ddau ‘gamgymeriad’ neu fwtaniad ar y genyn PAX3. Mae nifer o nodweddion ffenoteipol, gan gynnwys: ‘dystopia canthorum’ (siâp llygaid anghyffredin), ‘trwyn annatblygedig’ (neu drwyn bach smwt) a dadbigmentiad (colli lliw) yn y llygaid, croen, gwallt, ac, yn ôl rhai ymchwilwyr, y cochlea – sef rhan o’r clust mewnol; mae’n debyg, felly, fod yna gysylltiad rhwng y nodwedd olaf yma a’r golled clyw, sydd hefyd yn nodweddiadol o’r cyflwr (Khan 2007). Yr wyf, fel unigolyn, yn hogan-poster i’r cyflwr, yn arddangos sawl nodwedd ffenoteipol o’r cyflwr (Wheeler 2017); ond y gwallt, dwi’n credu, yw’r nodwedd fwyaf trawiadol, o ran fy ymddangosiad corfforol. Eironig braidd, felly, yw’r ffaith fy mod wedi datblygu arferiad y gallai niweidio fy nelwedd unigryw – ond mae’r ddwy beth yn gysylltiedig.

Pan roeddwn yn ifanc, roedd gen i wallt gwinau tywyll. Ond yn fuan iawn, dechreuais weld un neu ddau o ffoliglau gwyn drwyddi draw. Fel plentyn ysgol, roedd hyn yn anodd i mi ddeall ac ymdopi gyda. Yr wythdegau oedd hi, a mi roeddwn i wedi cael o leiaf un perm wrth drio edrych fel fy model rôl, Kylie Minogue. Roeddwn hefyd wedi rhoi llond o bethau yn fy ngwallt, megis gel, mousse, a hair spray, ac, yn fy anwybodaeth, tybiais mai hyn oedd wrth wraidd y broblem; penderfynais i beidio defnyddio pethau fel hyn bellach, tyfu’r perm allan, a defnyddio nwyddau fysai’n adfywio’r gwallt. Wnes i hefyd dechrau defnyddio tweezers i dynnu’r ffoliglau gwyn o’r gwallt.
Erbyn fy arddegau, mi roedd y llinynnau gwyn wedi dechrau troi’n rhesi, neu glympiau, ac roedd y blaengudyn nodweddiadol hefyd wedi dechrau ffurfio, ger y talcen – gan olygu fod y gwallt yn fwy gwyn yna na gwinau. Treuliais gryn dipyn o amser wrth y drych, yn tynnu fwy a fwy o’r gwallt allan, gan gynnwys yr ail-dyfiant, tra oedd o dal yn rhyw gentimetr o hyd.
Tyfodd fy mhryder a hefyd fy obsesiwn hefo fy ngwallt.
Treuliais oriau maith yn Boots, yn darllen pecynnau’r nwyddau gwallt oedd yn addo rhoi hwb i liw’r gwallt, dod a sglein iddi, a phob math o bethau eraill. Prynais fitaminau a meddyginiaethau llysieuol Tsieineaidd; ond ni lwyddodd dim i adfywio lliw gwinau yn fy ngwallt.
Yna daeth yr epiffani. Digwydd sôn am y broblem wrth mam wnes i, gan gynnwys fy nghred fy mod wedi achosi’r broblem drwy ddefnyddio nwyddau a chael perm. A dyma mam yn esbonio fod y dadbigmentiad yn rhan o’r cyflwr genetig yn nheulu fy nhad. Roedden ni gyd wedi bod i Fanceinion pan oeddwn yn hogan fach, fel rhan o’r ymchwil lle wnaethant ddarganfod y genyn oedd yn achosi’r byddardod a’r nodweddion ffenoteipol eraill, megis y gwallt (Tassabehji et al. 1992). Fuaswn yn nodi’r sgwrs hwn fel enghraifft bersonol o’r cysyniad cymdeithasegol ‘aflonyddwch bywgraffyddol’ (biographical disruption) (Bury 1982) ac, yn dilyn y sgwrs, es i drwy’r camau cyffredin – pam fi? Beth fedrai wneud? Roeddwn yn barod wedi ceisio defnyddio fy adnoddau a gwybodaeth mynd i’r afael â’r broblem.
Felly erbyn i mi gyrraedd fy ugeiniau, roeddwn yn deall tarddiad y dadbigmentiad, a cheisiais ddelio â hi mewn gwahanol ffyrdd, gan gynnwys rhoi lliw yn fy ngwallt – sydd wrth gwrs yn beth reit gyffredin i’w wneud, er, tydi rhywun yn ei ugeiniau ddim fel arfer hefo ail-dyfiant gwyn wrth wreiddiau ei gwallt. Erbyn fy nhridegau, roeddwn wedi cael digon o geisio cuddio fy nghyflwr, ac, beth bynnag, roedd y gwallt yn arian, nid yn wyn neu lwyd – tybiaf. Derbyniais y gwallt fel rhan o’r broses o ddelio hefo fy nghyflwr, ond nid oedd yn broses hawdd na terfynedig; mae hi’n fwy o broses barhaol ac, efallai, yn enghraifft o beth a elwir yn ‘anhwylder dysmorffig y corff’ (body dysmorphic disorder) (American Psychiatric Association 2013, tud. 242-247).
Rwy’n credu mai’r berthynas anhwylus yma hefo fy ymddangosiad personol a hunan delwedd sydd wrth wraidd fy mhrofiad personol o’r cyflwr ‘trichotillomania’ – sef y cyflwr tynnu gwallt (American Psychiatric Association 2013, tud. 251-254; Meddwl org 2017).
Pan dynnais y gwallt o fy mhen yn gyntaf, roedd yn weithred anghyffredin ac yn rhan o ymdrech i ddidoli rhywbeth estron o fy ymddangosiad personol; doedd yna ddim esboniad boddhaol i rywun mor ifanc cael gwallt oedd yn liw a gysylltir hefo pobl oedrannus. Rhaid mai rhyw fath o gamgymeriad oedd e, felly digon teg byddai ei dynnu – megis draenen yn y croen. Wrth i’r nifer o ffoliglau cynyddu, wnaeth y weithred o’i dynnu cynyddu – ac erbyn i hyn fynd yn anghynaladwy, roeddwn yn barod wedi dechrau cysylltu teimladau emosiynol, megis pryder a hunan delwedd, hefo’r synhwyriad o dynnu gwallt. Datblygais batrwm felly, neu arferiad, lle’r oedd stad emosiynol yn sbarduno’r weithred camaddasol (maladaptive). Ac erbyn hyn, hyd yn oed os yw’r sbardun yn rhywbeth sydd yn cwbl amherthnasol i fy ymddangosiad corfforol, ond yn hytrach yn ymwneud a rhyw agwedd arall o’r ‘hunan’, rwy’n ffeindio fy hun yn tynnu ar fy ngwallt – a chyn pen dim, rwyf wedi tynnu cryn dipyn ohoni o’m mhen.
Yn ddiweddar, cefais gyfnod o bryder mawr ac mi wnaeth yr arferiad camaddasol yma dychwelyd, fel gremlin cas i’m poenydio.
Tynnais a thynnais ar fy ngwallt ac mi aeth fy ngwallt i edrych yn garpiog tu hwnt; roedd yn hyd yn oed mwy tenau nag arfer, yn fwy sych, ac yn clymu fwy at ei gilydd wrth i mi ei mwydro trwy’r dydd a nos. Yna, un diwrnod, a finnau’n sownd mewn tagfa traffig, sylwais fy mod wedi bod yn tynnu cryn dipyn ar fy ngwallt, nes roedd gen i lond llaw o ffoliglau. Es i’w gollwng nesaf i’r ffon gêr – ond cefais fraw: yna’n barod, roedd nyth enfawr o fy ngwallt arian – cymaint nes i mi deimlo panig – a oeddwn wedi tynnu cymaint nes achosi safle moel? Chwysais a theimlais fel baswn yn chwydu, wrth i mi geisio codi fy llygaid er mwyn sbïo yn y drych; ond o’r diwedd mi wnes i edrych, ac, er bod fy ngwallt yn denau a carpiog, a fy wyneb yn welw a trist, nid oedd moelni gweledol – diolch i’r drefn.
Ar ôl y braw yma, es ati i geisio taclo’r arferiad, a hefyd yr hyn oedd wrth wraidd y pryder mawr a fu’n sbardun iddo ail-ymddangos. Rwy’n hapus i ddweud fod yr arferiad o dan reolaeth bellach, ac rwyf hefyd wedi bod yn ffodus iawn fod dim niwed parhaol wedi ei achosi (fel sy’n gallu digwydd). Mae’r gwallt wedi tyfu yn ôl – er, pan mae’n wyntog, mae’n bosib gweld y gwallt sydd gen i ar un ochr sydd yn llawer iawn byrrach na’r gweddill – yn wir, mae gen i ryw fath o ‘mullet’ wythdegau. Roedd y gwallt o’r cyfnod o bryder diweddar, lle’r oedd wedi tyfu o’r pen a lawr at ddiwedd y ffoliglau, yn sych a clymog ac, yn anffodus, yn achosi fi i dynnu fy mysedd drwyddi yn aml, gan achosi llond ohono i ddod allan. Felly, wrth i newyddion o COVID 19 dechrau cylchu, a sôn am hunan-ynysu ar ei ffordd, cefais dorri rhyw bedwar modfedd oddi ar ddiwedd fy ngwallt – er mwyn ceisio gwahardd fy hun rhag mynd ati i dynnu’r gwallt, yn ystod y cyfnod o bryder mawr anochel i ddŵad.
Mae’r arferiad dan reolaeth gen i, ar hyn o bryd, ond, fel unrhyw arferiad, neu gaethineb, mae’n fwgan rwy’n teimlo ar fy ysgwydd, yn aros am y cyfle i ddychwelyd; rhaid bod yn wyliadwrus ac ofalus felly, i sicrhau nad wyf yn llithro nôl i’w crafangau.
Sara Louise Wheeler
Llyfryddiaeth
- American Psychiatric Association. 2013. Diagnostic and Statistical Manual of Mental Disorders, Fifth Edition (DSM-5). Washington, DC: American Psychiatric Publishing.
- Bury, M. 1982. “Chronic Illness as Biographical Disruption.” Sociology of Health and Illness 4 (2): 167-82.
- Khan, Alice. 2007. Waardenburg Syndrome: A Volume in the Genetics and Communication Disorder Series. San Diego; Oxford; Brisbane: Plural Publishing.
- Meddwl org. 2017. “Trichotillomania: cyflwr lle mae person yn teimlo’r angen i dynnu eu gwallt yw trichotillomania.” (Wedi Ei Chyfieithu o Dudalen We’r NHS). 2017. https://meddwl.org/cyflyrau/ocd/attachment/trichotillomania-cymraeg/.
- Tassabehji, M, A P Read, V E Newton, R Harris, R Balling, P Gruss, and T Strachan. 1992. “Waardenburg’s Syndrome Patients Have Mutations in the Human Homologue of the Pax-3 Paired Box Gene.” Nature 355 (6361): 635-36. https://doi.org/10.1038/355635a0.
- Wheeler, S.L. 2017. “Pink Hearing Aids and Purple Shampoo: Biographical Implications of Waardenburg Syndrome Type-1.” Auto/Biography Yearbook 2016: The Annual; Journal of the British Sociological Association Study Group on Auto/Biography.