Aled Edwards ydw i ac rwy’n falch o’r dyn rydw i wedi dod
Rhybudd cynnwys: mae’r blog hwn yn cyfeirio at hunan-niweidio a hunan-laddiad.
Wrth edrych yn ôl, rydw i wedi cael trafferth gyda fy iechyd meddwl y rhan fwyaf o fy mywyd. Roedd yr arwyddion i gyd yno; bod yn ddig drwy’r amser, hunan-niweidio a dod yn bell oddi wrth bobl a digwyddiadau cymdeithasol. Roeddwn i’n credu nad oeddwn yn haeddu cael fy ngharu, yn gragen wag ac am farw ar fy mhen fy hun yn y pen draw.
Ym mis Hydref 2021, ceisiais gymryd fy mywyd fy hun, 6 wythnos ar ôl genedigaeth fy mhlentyn ieuengaf. Diolch byth, wnes i ddim llwyddo. Gyda chymorth fy ffrindiau agos, plant a fy ngwraig anhygoel, gallwn ofyn am y cymorth yr oeddwn ei angen a chefais ddiagnosis o iselder ôl-enedigol.
I ddechrau, roeddwn yn chwilio am rywle y gallwn fynd i siarad am fy mhrofiadau; rhywle fel cyfarfod AA, lle gallwn i siarad â phobl sydd wedi mynd trwy rywbeth tebyg neu sy’n mynd trwyddo. Rhywle i fy helpu i ddeall fy meddyliau a theimladau. Ond doedd dim o’r fath yn bodoli. Yr adeg honno, mi fysai wedi bod yn hawdd rhoi’r ffidil yn y to ac ildio, fodd bynnag, rwy’n benderfynol o beidio â gadael i’r salwch hwn fy nychu na’m diffinio.
Yn lle hynny, mae wedi rhoi’r awydd i mi godi ymwybyddiaeth o iselder ôl-enedigol mewn dynion, atal hunanladdiad ymhlith dynion, normaleiddio iechyd meddwl a helpu eraill i ddod o hyd i’r cymorth sydd ei angen arnynt. Dyma lle ddoth y syniad am grŵp tadau.
Sylwais bod helpu eraill yn rhoi ymdeimlad o bwrpas a chymhelliant i mi ac felly sefydlais Sut mae Dad? sef menter gymdeithasol sy’n ymroddedig i gefnogi tadau. Fy ngweledigaeth oedd rhoi gofod i dadau lle gallent fwynhau amser ar eu pen eu hunain gyda’u plant tra’n datblygu bond cryf, lle roedd tadau’n teimlo y gallent fod yn agored ac yn onest am eu brwydrau mewn byd sydd ond wedi’i deilwra i gefnogi Mamau. Roeddwn i eisiau defnyddio fy mhrofiad negyddol i gefnogi tadau fel fi.
Yn aml, edrychir ar rianta trwy lens y fam, lle mae tadau yn aml yn cael eu hanwybyddu mewn trafodaethau am gymorth rhieni ac iechyd meddwl. Fy nod yw darparu system gymorth bwrpasol i dadau a darpar dadau sy’n delio â heriau iechyd meddwl. Creu man diogel a cynhwysol lle gall tadau gysylltu, rhannu eu profiadau a derbyn y cymorth sydd ei angen arnynt i lywio cymhlethdodau magu plant. Trwy ganolbwyntio ar les meddwl a chysylltiad cymdeithasol, fy nod yw grymuso tadau i ddod y fersiwn orau ohonyn nhw eu hunain.
Fy nod yw dod yn adnodd y gellir ymddiried ynddo ar draws Ynys Môn, Gwynedd ac un diwrnod, ledled Cymru gyfan, gan bontio’r bwlch mewn gwasanaethau iechyd meddwl i dadau ac adeiladu cymuned lle mae pob tad yn teimlo ei fod yn cael ei weld, ei glywed a’i gefnogi.
Cyn fy mrwydrau, roeddwn yn ei ffeindio’n anodd edrych i’r dyfodol; allwn i byth weld yfory gyda mi ynddo. Mae fy mrwydrau ac ymgais hunanladdiad wedi dysgu i mi fy mod yn gryfach nag yr oeddwn yn meddwl a fy mod yn ddigon.
Aled Edwards ydw i ac rwy’n falch o’r dyn rydw i wedi dod.