Profiad erchyll un fam yn dangos pa mor wael all bethau fod ar ôl rhoi genedigaeth : WalesOnline

Dechreuodd Sarah Hayes brofi rhithweledigaethau a chlywed lleisiau ar ôl i’w mab Alex gael ei eni. 

Mae hyd at un mewn pump o fenywod yn profi problem iechyd meddwl yn ystod beichiogrwydd neu o fewn y flwyddyn gyntaf o roi genedigaeth.

Yn yr achosion gwaethaf, gall hyn fod yn gyflwr prin ond difrifol o’r enw seicosis ôl-enedigol.

Yn ôl y canllawiau diweddaraf, dylai menywod sy’n profi seicosis ôl-enedigol gael eu derbyn i uned Mamau a Babanod lle y gallant dderbyn gofal arbenigol heb gael eu gwahanu o’u plentyn. Er hyn, cafodd Sarah eu gwahanu o’i babi a’i derbyn i ysbyty seiciatrig cyffredinol, oherwydd y diffyg gwelyau.

Mae seicosis ôl-enedigol yn salwch difrifol sy’n gallu dechrau yn y dyddiau neu’r wythnosau yn dilyn genedigaeth.

Mae amrywiaeth eang o symptomau, ond maent fel arfer yn cynnwys coelion anarferol na allant fod yn wir, dryswch difrifol, clywed, gweld neu arogli pethau nad ydynt yn bodoli, a hwyliau uchel lle’r ydych yn colli ymdeimlad o realiti.

Darllen rhagor : WalesOnline (Saesneg)