Poteli gwag o ‘nghwmpas yn gofyn am y pwy?

Stori Hynek Daniel Janoušek/Inigo Daniel Jones :] Yr ing a’r pruddglwyf

Alcoholydd ydwyf i, ‘does dim dwywaith amdani bellach. Wedi defnyddio’r ddiod gadarn ers sbel go hir, a’r hen faco hefyd. Joio’r ddiod a’r baco o hyd, wrth gwrs, a chasáu bod yn gaeth i’r rheiny hefyd. Ond dal ati yn cwblhau fy ninistr fy hunan o’m gwirfodd… Tybed beth a ddaw? A’r ing, yr ofn o beidio â bod o dan ryw fath o ansethetig neu dawelyddion? Rhyw orwel ddiaryffordd uwchben bwa’r Drindod ar fore gwanwyn hardd? Am ddychrynllyd o hardd!

Wrth i bob blwyddyn ddechrau a mynd yn ei blaen tua’i therfyn anorfod, rwy’n cael pyliau o orfoledd a phyliau o dristwch diymadferth. Mae’r ddau gyflwr yn annioddefol bron… Yn amlach na pheidio, yn hwyr neu’n hwyrach, byddaf i’n troi yn llysieuyn, yn farw byw, yn zombie… ’Na mor flinderus yw pendilio o hyd ac o hyd rhwng y ddau begwn hynny – llawenydd, tristwch, tristwch, llawenydd, tristwch, tristwch, tristwch enbyd…

Rwy’n troi yn zombie yn enwedig pan fyddaf i’n gwrando ar y meddygon a chymryd fy nhabledi gwrth-iselder. A chwarae teg, mae’r tabledi yna wedi fy atal rhag cau pen fy mwdwl bach i o fywyd yn gyfan gwbwl, wedi atal hunanladdiad, siŵr o fod…

Fy mhwynt yw, annwyl ddarllenydd: Gwranda ar dy galon, gwna’r hyn sy’n teimlo’n iawn i ti dy hunan yn y sefyllfa rwyt ti’n ynddi nawr, gwranda ar dy enaid!

Rwyf i nawr ar fin symud i’r wlad, i berfeddion gwledig Tsiechia, i’r gogledd, i ganol nunlle, ys dywedir. Gofalu am y tyddyn, prynu asyn a gafr a dwy iâr neu dair, dyna rwy’n bwriadu ei wneud…