Pob math o chwys
Poen meddwl a chydnabyddiaeth o’r angen i wella ansawdd eu bywyd sydd yn aml iawn yn annog person i gysylltu â mi fel hyfforddwr personol, a ‘poen’ o fath arall yw’r moddion dwi’n darparu ar eu cyfer.
Dwi ddim yn bwriadu ysgrifennu llith yn brolio natur iachus, eang fy maes. Yn hytrach, yma i drin a thrafod perthynas ymarfer corff ac iechyd meddwl ydw i ac i gynnig dulliau o ymgodymu â phroblemau emosiynol dwys drwy baratoi rhaglen waith penodol corfforol ar gyfer yr unigolion. Mae o werth atgoffa pawb y gall ansawdd bywyd pob un ohonom waethygu yn gyflym iawn o ddiystyru gofalu am ein cyrff, ond o neud, gellir lleddfu amryw o gyflyrau e.e. clefyd y galon, pwysau gwaed uchel, osteoporosis, diabetes, arthritis a gordewdra.
Ond y buddion ‘eraill’ dwi eisiau pwysleisio yma, oherwydd eu bod yr un mor bwysig i bobol sy’n dioddef o orbryder, iselder neu hunan-amheuaeth. Ac rydw i’n dyst y gellir profi gwerth rhaglen waith arbennig i’r unigolyn mor fuan â’r sesiwn gyntaf, ac yn sicr o fewn cwpwl o wythnosau.
O fewn dipyn, mae’r corff wedi gwella ac wedi cryfhau, ac mae cydnabod y gwelliant yma yn golygu fod gwell delwedd o’r corff gan yr unigolyn.
Mae rhywbeth cyntefig yn digwydd sef fod partneriaeth rhwng y corff a’r meddwl yn gwneud i’r person ymateb i fywyd yn fwy hyderus a llai pryderus. Mae hyn, wrth gwrs, yn digwydd ar raddau gwahanol i bawb ac efallai na fydd y tyfiant yn amlwg iddi\iddo’n syth – ond fe ddaw o’m profiad i.
Dwi’n gwybod o brofiad fy nghleientiaid ac o’m profiad personol ei fod yn llawer anoddach i berson sy’n dioddef o iselder i godi pwysau. Nid oherwydd bod y pwysau’n rhy drwm ond oherwydd bod yr ymdrech i geisio hunan-welliant yn rhy drwm ar y dechrau. Ond cyhyr ydi’r ymennydd ac fe wnaiff dyfalbarhau ac ymarfer y corff gael effaith pellgyrhaeddol ar yr enaid. Y pwysa mwya pwerus a thrawiadol yn hanes y cleiant sydd ag iselder ysbryd ydi’r un gyntaf mae’n ei godi.
Anna Reich, hyfforddwr personol