Nigel Owens ac iechyd meddwl : BBC Radio Cymru

Bu Nigel Owens yn rhannu ei brofiadau o iselder a bwlimia ar Radio Cymru yn ddiweddar.

Nes bo’ fi yn 26 nes i ymladd yn erbyn [ei rywioldeb], nes i dreial neud popeth allen i i beidio bod yn hoyw… ‘na pam nes i ddioddef gyda’r iselder yna… ond o’dd dim dewis. O’n i’n 26 cyn nes i ystyried ‘ny – pan es i i’r noson dywyll ‘na a o fewn 20 munud o golli’n fywyd.

Na’i byth fadda i’n hunan beth nes i ddodi’n fam a’n nhad trwyddo pan naethon nhw godi’r bore ‘ny a darllen y nodyn a meddwl bo’ nhw byth yn mynd i weld eu hunig blentyn byth ‘to.

‘Dywedodd hefyd ei fod yn dal i gael problemau achlysurol gyda’r anhwylder bwyta, bwlimia – “dros gyfnod y Nadolig fe ddoth yn ei ôl ddwytha” – ond bod y sefyllfa ddim yn cymharu â’r cyfnod mwyaf difrifol, a’i fod yn rhywbeth sy’n codi yn sgil teimlo’n isel “o bryd i bryd”.’

Darllen rhagor : BBC Cymru Fyw