Iselder Ôl-brifysgol

Rhybudd Cynnwys: Hunan-niweidio

Nes i ddechrau sgwennu’r blog ‘ma wyth mis yn ôl. Wyth blydi mis mae ‘di cymryd i gal y hyder i’w orffen a chyhoeddi. Mae llwyth wedi newid ers hynny, felly mi af i o’r dechrau. Dyma ddechrau fy llwybr iselder.

Dair blynedd yn ôl pan oni yn fy ail flwyddyn yn y brifysgol, dechreuais i deimlo’n rhwystredig a methu neud fy ngwaith coleg. Dywedais i wrth fy ffrind, a nath hi ddeud bod pawb yn teimlo’r un peth, a nad ydi’n rhywbeth i boeni amdano. Ond oni’n gwbod nad oedd pethau’n iawn.

Es i at gynghorydd a chael sesiwn drop in un awr gyda nhw. Dywedais i fy mhroblemau wrthyn nhw, ac ar ôl 55 munud, fe wnaeth hi ailadrodd fy mhroblemau, yn union fel oeddwn i wedi dweud wrthi, a dweud y dylwn i ddod yn ôl am fwy o sesiynau – ond byddai’n gorfod disgwyl misoedd am apwyntiad. Dim diolch, meddyliais, mi af dros hyn i gyd fy hun, ac mi eshi.

Dyna oedd diwedd y problemau am flwyddyn arall. Doeddwn i erioed wedi bod mor hapus yn fy mywyd. Fy ail flwyddyn yn y brifysgol ydi blwyddyn orau fy mywyd – ddim byd i boeni amdano, mynd allan bob nos, gneud camgymeriadau a ddim difaru ddim eiliad, ac mi oeddwn i’n dal i lwyddo yn fy ngradd. Cyn imi sylweddoli, roedd y drydedd flwyddyn rownd y gornel.

Ond doedd hi ddim cweit yr un peth â’r ail flwyddyn…

Wnaeth bawb kinda ddechrau aeddfedu, callio, ac acshyli gwneud eu gwaith coleg nhw. A dyma oeddwn i, yn dal i fynd yn wyllt a mynd allan a gadael fy ngwaith tan ddiwrnod cyn y dyddiad cau. Wrth gwrs, roedd pawb yn stressed yn y drydedd flwyddyn, ond ‘nai fyth anghofio pa mor afiach oeddwn i’n teimlo. Waw. Roeddwn i’n isel. Dwi’n cofio un noson, oeddwn i allan, ond nes i ddim yfed achos roedd gen i waith i’w wneud. Nes i gyrraedd y tŷ, ac o nunlle, teimlais i bethau nad oeddwn i erioed wedi eu teimlo. Oeddwn i’n hysterical. Yn crio, yn sgrechian, yn taflu fy ffôn at y wal.

Oeddwn i isio brifo fy hun gymaint. A dyna wnes i. Niweidiais fy hun ac roedd o’n brifo lot, ond oni’n brifo ar y tu mewn. Es i allan a mynd am dro rownd y lle, tua hanner nos, a thorri i lawr y tu ôl i ryw finiau wheely. Doeddwn i ddim yn gwbod beth i’w wneud. Doeddwn i ddim isio i neb fy ngweld, ond eto, roeddwn i isio help.

Roeddwn i isio i rywun fy ffeindio a fy hygio a smalio fod popeth am fod yn iawn.

Beth bynnag, dwisio sôn am y peth pwysicaf, y rheswm fy mod wedi ‘sgwennu blog, er mwyn i eraill allu uniaethu. Does dim digon o sôn am iselder wedi iti raddio, ac felly wedi i ffrind sôn wrtha i am wneud blog, dwi wedi mynd ati i drio siarad am fy mhroblemau.

Fel oni’n deud, ges i dair blynedd orau fy mywyd yn y brifysgol. Nes i raddio gyda gradd uchel a neshi lwyddo fel oni wedi gobeithio. Oni wedi cyflawni gymaint yn y dair blynedd honno, a fel oedd pawb yn ei ddweud, ‘gei di job yn syth, gei di ‘neud be’ bynnag tisio’. Ond nid fel ‘na y bu. Roedd pawb yn disgwyl y gorau gennyf, ac oni i jest methu cael swydd. Oedd, oedd gennai swydd, ond nid un gall. Es i am swyddi swni wedi gallu’u cael, ond roeddwn i’n clywed ‘oeddet ti’n ail agos, ond roedd gan rywun arall fwy o brofiad’. Roedd yn dod yn ddiflas ac yn fy rhoi i lawr yn ofnadwy.

Es i am fy dream job yng Nghaerdydd, ond sioc, neshi’m llwyddo. Roedd hynny wir wedi torri fy nghalon, ac aeth pethau i lawr o hynny ymlaen. Doedd dim gobaith. Roeddwn i’n gweithio oriau anghymdeithasol tra oedd fy ffrindiau i gyd yn dal i gael hwyl gyda’u cyflogau uchel a swyddi da. Roeddwn i yno, yn teimlo fatha failure, yn dal i weithio ar y cyflog isaf posib. Roedd bywyd yn shit. Oni methu cysgu, 4 o’r gloch oedd fy amser gwely arferol, ar ôl oriau o drio troi i ffwrdd ond methu.

Dyna pan ddaeth fy iselder yn ôl i fyw.

Dwi’n cofio un diwrnod oni’n teimlo’n isel ac es i i’r gwaith – byddai gwaith wastad yn neud fi deimlo’n well. Roedd pawb yn deud helo wrtha i, gofyn sut oeddwn i, ayyb, ond oni just methu. Neshi redeg i’r toiled, byrstio crio, a sbio ar fy hun yn y drych. Y cwbl oni’n ei weld oedd poen yn fy llygaid, a’r dagrau ddim yn stopio llifo. Byddai pawb yn sylwi mod i wedi mynd, felly es i yn ôl allan a thrio anghofio am grio. Ond dyma oedd fy ffrind yn dod ataf a gofyn ‘are you ok?’. Na. Dyna fo. Torrais i lawr yn ei freichiau, a dweud y cwbl wrtho.

Doeddwn i ddim yn iawn. Ac roedd o’n deall. Rhywun yn deall. Wedyn, fe ddoth fy rheolwr ataf yn y cefn a dweud wrtha i i ddod allan i gael sgwrs. Cafodd o smoc wrth roi ryw life talk imi, a dweud wrtha i i ddweud wrth rywun, fy mam yn gyntaf. Es i yn ôl i’r gwaith, a trio cadw fy hun yn brysur a calmio i lawr. Oni’n iawn. Ar fy ffordd adra, arhosais yn fy nghar am ryw awr yn crio, deud ‘callia Meg’, mewn i’r tŷ, a dywedais i wrth neb.

Ar ôl yr hyn i gyd, mi nes i apwyntiad doctor. Oni wedi bwriadu dweud wrth mam am ddyddiau, ond doni byth yn gallu ffeindio’r amser iawn. ‘Ia, hai mam, ma gennai iselder.’ Dio just ddim yn llifo’n iawn mewn sgwrs, nachdi? Eniwe, nath y ddoctor just ddeud fod gennai symptomau iselder, a rhoddodd dabledi imi. Oedd hi mor hawdd â hynny. ‘Yeah, you sound depressed, have some tablets’. Ond doni ddim yn gwbod beth arall i’w neud.

Nes i ddeud wrth mam, gafodd sioc mod i mor isel, ond nathi ddeud y dylwn i gymryd y tabledi. Sertraline oedd y rhain. Ces i gur pen ofnadwy am ddau ddiwrnod, a dyna fo. Nes i just fynd yn flat. Ddim teimladau, ddim yn hapus, ddim yn drist, ddim yn isel, ddim byd. Am wn i, anti-depressants ydyn nhw, ddim happy pills. Ar ôl ychydig o fisoedd ar y rheiny, doedd ddim lot wedi newid.

Es i at ddoctor oedd yn barod i wrando, a fo nath ateb fy mhroblemau i gyd.

Nath o ddallt mai diffyg cwsg oedd fy mhrif broblem, a rhoddodd Mirtazapine imi. Waw. Mae ‘na gymaint o negyddoldeb tuag at dabledi anti-depressant, ond diolch i’r rhain mae fy mywyd wedi newid. Mae nhw’n fy helpu i gysgu, gallu deffro’n gynnar, wedi rhoi strwythur i fy mywyd, a dwi ddim yn isel.

Mae’n rhyfedd. Dwi’n sgwennu’r blog ma yng nghanol adeg anodda fy mywyd hyd yn hyn – dwi newydd gael fy nghalon ‘di torri, mae fy mywyd wedi newid yn llwyr, a dwi’n brifo. Ond mae ‘na rywbeth anhygoel am fynd trwy bethau fel hyn. Dwi erioed wedi sylwi pa mor arbennig ydi fy ffrindiau. Nhw sydd wedi fy annog i sgwennu hwn, nhw sydd wedi fy nghael i allan o’r twll enfawr oni ynddo bythefnos yn ôl a nhw sydd wedi gwneud imi sylweddoli mod i’n werth rhywbeth a ddim yn haeddu cael fy nhrin mor wael â dwi wedi bod yn ddiweddar.

Doeddwn i erioed wedi meddwl ddim byd o fy hun, er mod i wedi cydnabod fy llwyddiant yn academaidd, dwi erioed wedi ratio fy hun. Ond diolch i’m ffrindiau, ac mae nhw’n one of a kind, dwi’n teimlo’n gryf. Dwi newydd gael fy swydd ddelfrydol yn 22 oed, flwyddyn wedi’r ymgais aflwyddiannus yng Nghaerdydd. Y swydd dwi’n ei charu sy’n fy nghadw i fynd.

Dwi’n dal i fyw, a dwi’n neud yn blydi da.

Mae’n teimlo’n amazing gallu deud y pethau positif hyn wedi mynd trwy be dwi di bod trwyddo yn y blynyddoedd diwethaf ‘ma, ac yn enwedig y mis diwethaf ‘ma.

Diolch i Mirtazapine, diolch i’m ffrindiau, a diolch i’r Urdd. Swni ddim yma heddiw hebddo chi.

Megan Elias


Ymwadiad: Mae pob meddyginiaeth yn effeithio ar bawb yn wahanol. Siaradwch â’ch meddyg teulu neu weithiwr iechyd proffesiynol cyn cychwyn neu roi’r gorau i gymryd meddyginiaeth.