Iselder, Adran 136 ac Ymgeisydd Senedd
Ymddangosodd darnau o’r blog hwn yn wreiddiol ar wefan Golwg360.
Roedd ddarllen bod bron a bod i 5 o bobl bob dydd cael eu dal dan y ddeddf iechyd meddwl ledled Cymru yn ystod 2020, wedi cael effaith arnaf. Penderfynais sefyll yn yr etholiad eleni oherwydd nid yn unig fy mhrofiad yn y byd busnes, ond oherwydd fy mod yn un o’r bobl cafodd eu cadw gan yr heddlu o dan adran 136 o’r ddeddf iechyd meddwl.
Mi fydd y noson collais i bob hawl a dod o dan warchodaeth y wladwriaeth, er diogelwch fy hun a chymdeithas, yn aros gyda mi am gydol fy oes. Y noswaith honno, cefais fy nghasglu gan yr heddlu wedi i fy nheulu gysylltu â nhw. Cefais fy ngyrru i’r ysbyty agosaf a ‘nghadw yno dros nos. Pryd hynny roeddwn i yn fy ugeiniau hwyr ac nid oeddwn erioed wedi disgwyl i mi gyrraedd y pwynt argyfwng yma. Sa i’n siwr bod unrhyw un yn credu y byddant yn cyrraedd y pwynt hwnnw yn ei bywyd.
Roedd y chwech heddwas y noson honno yn angylion, ac yn haeddu pob clod am gyflawni eu gweithredoedd fel rhan o’u dyletswyddau. Rwy’n dymuno nad oedd fy afiechyd meddwl wedi cyrraedd y pwynt lle roeddwn i angen i’r wladwriaeth ymyrryd, ond ni allaf fynd yn ôl. Rhaid imi ymladd am newid fel nad yw rhywun arall yn cyrraedd y pwynt hwnnw.
Yn dilyn y noson honno, cefais fy nghadw am 24 awr a chael fy rhyddhau yn ôl i’r byd. Roedd fy hwyliau, ar ôl cael fy rhyddhau, mor isel ond roeddwn i’n gwybod bod yn rhaid i mi fynd i ddelio â’m problemau. Ceisiais gymorth meddygol ar unwaith a gwelais seiciatrydd cyn gynted ag yr oedd yn bosibl. Yn anffodus, fe’m cynghorwyd y byddai’n well defnyddio darparwyr gofal iechyd preifat yn hytrach na’r GIG oherwydd y straen sydd ar wasanaethau iechyd meddwl. Rhagnodwyd Prozac imi ac nid wyf wedi edrych yn ôl ers hynny. Dim ond nawr y gallaf edrych yn ôl a cheisio gwneud taith iechyd meddwl rhywun arall yn hollol wahanol.
Mae’n debyg y bydd fy seiciatrydd yn dweud wrthych fod gen i iselder ar lefel isel oherwydd straen yn dilyn digwyddiad bywyd. Ar adeg fy argyfwng, roedd gen i broblemau gyda’r perchennog llety a straen gwaith bob dydd. Arweiniodd y straen hon at ddirywiad i’m iechyd meddwl.
Hoffwn i feddwl pe bawn i wedi cael fy nysgu yn yr ysgol beth oedd iselder, neu pe bai pobl yn fy mywyd – yn fy man gwaith, gweithwyr trafnidiaeth gyhoeddus, aelodau o’r gymuned – yn ymwybodol o’r arwyddion a gallai fod wedi fy ngwthio i fynd i siarad â rhywun am fy nheimladau byddai pethau yn wahanol. Hoffwn i weld cymunedau yn dod at ei gilydd, dim ond yn ein cymunedau gallwn ni curo iselder a gwella iechyd meddwl trigolion Cymru.
Mae Cymorthwyr Cyntaf Iechyd Meddwl yn darparu achubiaeth i nifer ohonyn ni, ac hoffwn pe gallem weld mwy ohonyn nhw yn ein cymdeithas. Mae Kirsty Williams wedi chwyldroi cwricwlwm Cymru ac erbyn hyn mae iechyd meddwl yn ganolbwynt, ni allaf ddweud digon o ddiolch ichi am y gwaith y mae Kirsty wedi’i wneud yma.
Mae angen gweinidog iechyd meddwl ymroddedig yng Nghymru sydd yn gweld tu hwnt i’r GIG wrth edrych ar iechyd meddwl. Dylai’r gweinidog hwn fod yn aelod effeithiol o lywodraeth a all ddylanwadu ar bob portffolio, gan fod dirywiad iechyd meddwl yn dod o bob rhan o fywyd. Dylai’r gweinidog fod yn ffocysu llywodraeth Cymru ar ganlyniadau ei phenderfyniadau ar les meddyliol y genedl.
Dwi’n ddiolchgar erbyn heddiw am y profiad es i drwyddo, ac rydw i’n deall y gofyniad yn y gyfraith i amddiffyn cymdeithas. Ond, hoffwn i weld daliadau o dan y deddf iechyd meddwl fel rhywbeth o’r gorffennol. Rwyf am ei wneud fel nad oes gennym ni fel cymdeithas unrhyw stigma ynghylch iselder ysbryd nag iechyd meddwl. Mae gan bob un ohonom ni iechyd meddwl i boeni amdano, a dylai eich llywodraeth fod yn mynd y tu hwnt i sicrhau bod yr argyfwng hunanladdiad yn cael ei hystyried ym mhob penderfyniad a wnânt.
Yr un darn o gyngor yr hoffwn i ei glywed oedd, ‘Mae siarad ag unrhyw un, boed yn weithiwr proffesiynol meddygol neu unrhyw un, yn helpu’. Pe bawn i wedi siarad yn gynt am fy nheimladau, rwy’n siŵr y byddwn wedi mynd at feddyg yn gynharach. I’r rhai ohonoch sy’n darllen hwn, os bydd rhywun yn siarad am eu teimladau, gwrandewch arnynt. Roedd fy iselder yn un cudd ac ni fyddai unrhyw un wedi dyfalu fy mod ar y pwynt yr oeddwn i. Mae’n lofrudd distaw y mae angen i ni ymladd yn ei erbyn.
Mae’r stigma sy’n gysylltiedig â siarad am iechyd meddwl yn rhemp ledled y wlad. Nid oes gen i gywilydd gen i wrth rannu fy mhrofiad ag iselder. Dwi’n cario fy iechyd meddwl fel anrhydedd dyddiau hyn, nid yn unig i mi fy hun ond i’r miloedd o bobl allan yna sy’n dioddef. Yr hyn nad yw’r rhifau yn ei ddangos yw’r bobl hynny nad ydyn nhw ar adeg argyfwng, os ydych chi’n un ohonyn nhw, siaradwch ag unrhyw un, fe all wneud byd o wahaniaeth.
Rhys Jones