Gwyliau’r Haf

Dwi newydd ddod nôl heddi o wythnos o wyliau gyda’r teulu tu allan i Barcelona. Lyfli…

….wel, mor lyfli gall gwyliau bod i rywun sy’n dioddef o iselder a gorbryder, er wedi ei reoli’n dda rhan fwyaf o’r amser erbyn hyn!

Mae hedfan yn anodd, a heddi, ar y ffordd nôl wnes i ffaelu’n llwyr i reoli fy mhanic wrth i’r cymylau yn Barcelona achosi’r awyren i fownsio wrth godi. Codias i ofn ar y plant ac o’n i wir ddim yn meddwl fydden i’n byw. Ond wrth gwrs, mi wnes i godi ofn arnynt, a nawr dwi’n teimlo’n failure enfawr.  Dwi ddim eisiau iddyn nhw ‘ddal’ fy ngorbryder i.

Mae bod i ffwrdd o adre yn codi pryder. Wrth gwrs wnes i fwynhau gweld y plant yn chwarae yn y pwll, ar y traeth, gweld nhw’n syllu ar y Sagrada Familia gyda diddordeb. Wnes i fwynhau gorwedd wrth y pwll, darllen llyfrau, ymlacio, nofio yn y môr. Ond dwi’n teimlo’n sâff adre, lle dwi’n gwybod ble’r ydw i. Jest i roi syrpreis i fi mae’r gorbryder yn dod mewn ffurf gwahanol bob tro, jest i wneud yn siwr bod hi’n anoddach i fi guro fe y tro hwn. O’n i’n poeni am y balconi, llun o’r mab ifancach 4 oed yn cwympo dros y balconi ar y 6ed llawr ac yn gorwedd ar y gwair odano yn fflachio mewn i fy mhen yn aml.  Yn peri i mi gau fy llygiad, dal fy anadl neu codi fy nwylo at fy ngeg sawl gwaith y dydd. Rhywbeth dwi ddim wedi poeni amdano o’r blaen!

Well gen i fynd ar wyliau yn y wlad yma, ond dwi ddim eisiau dal fy ngŵr a’r plant yn ôl. Y blynyddoedd diwethaf rydym ni wedi mynd ar y trên ac mae hwnna’n haws. Dwi’n gwybod bod rhaid i fi wneud rhywbeth am y broblem hedfan, mwy o feddwlgarwch? Dwi wedi darllen lot o lyfrau ar pryder hedfan. Ond am nawr dwi’n falch bod y gwyliau wedi dod i ben a dwi’n gallu defnyddio fy strategaethau bob dydd i fwynhau gweddill gwyliau’r ysgol gyda’r plant. Gyda fy nhraed ar y llawr.

Di-enw