Dwi ddim yn ddigon

Dwi’m yn ddigon.

Dwi’m yn ddigon del. Dwi’m yn ddigon clyfar.

Dwi’m yn ddigon diddorol. Dwi’m yn ddigon doniol.

Dwi’m yn ddigon clên. Dwi’m yn ddigon creadigol.

Dwi’m yn ffrind digon da. Dwi’m yn ferch digon da.

Dwi’m yn weithiwr digon da. Dwi’m yn gariad digon da.

Dwi’m yn ddigon sexy. Dwi’m yn ddigon serious.

Dwi’m yn ddigon tenau. Dwi’m yn ddigon curvy.

Dwi’m yn ddigon normal. Dwi’m yn ddigon gwahanol.

Dwi jyst ddim yn ddigon, be bynnag wnâi, felly be di’r pwynt? Be di’r pwynt ohona i? Dwi’n cofio wir ystyried y cwestiwn yma. Fy meddwl 22 oed yn sgramblo i drio ffeindio ateb yng nghilfachau fy mhen. Yna crio achos y gwir – fy ngwir i ar y pryd – oedd nad oedd pwynt ohona i o gwbl. Dwi’n cofio meddwl os mai fel hyn ma bywyd am fod, dwi’m isio fo. Peth braf fysa peidio deffro de. Jyst peidio deffro fory.

Ro’n i’n disgwyl canlyniad fy ngradd, yn rili gobeithio am first class honours, achos mi fysa hynny’n arwydd, o’r diwedd, mod i’n ddigon. Yn ddigon clyfar ac yn ddigon bob dim arall hefyd. Ro’n i’n hollol sicr mai derbyn y canlyniad yma fyddai trobwynt fy mywyd a fydda i’n sydyn reit yn gwybod fy mhwrpas – yn gwybod bod pwynt i fi. Daeth diwrnod y canlyniad, mi ddeffrais ac ystyn am yr iPhone, mewn i’r ebyst, a fano oedd o. Yr ebost on i wedi obeithio amdano ers wythnosau, yn fy llongyfarch am raddio efo first. Mi wnes i, yn llythrennol, neidio o’r gwely yn hapus i gyd a mynd i rannu’r newyddion efo Dad.

Nath o grio. Crio naeth Mam hefyd ar ochr arall y ffôn. Ro’n i’n falch, ac isio rhannu’r newyddion efo’m ffrindiau. Aeth ‘na Snapchat i bawb.
Pawb on i’n malio am eu barn nhw. Cystal â deud ‘sbiwch, ma hwn yn deud bo fi’n ddigon so ma rhaid ei fod o’n wir’. Aethon ni allan am swper fel teulu i ddathlu. Lyfli. Hapus. Balch.

Bore wedyn mi ddeffrais i, ac am rhyw reswm ro’n i’n synnu fod bob dim run fath. Roedd fy llofft i run fath. Notifications boreuol run fath. Y tywydd llwyd run fath. Pawb on i’n ‘nabod yn mynd o gwmpas eu bywydau run fath. Doedd y byd ddim yn gwybod fod bob dim yn fod i newid ac roedd bob dim run fath, ond rhywsut lot lot gwaeth hefyd.
Roedd cael rhywbeth i anelu ato wedi bod yn ateb. Ro’n i mor siŵr bod cael y marc ucha posib yn fy ngradd yn mynd i ddilysu fy modolaeth, ac ro’n i wedi glynu at hynny fel yr ateb fyddai’n clirio’r holl lanast yn fy mhen. Pan sylweddolais i nad oedd hyn yn wir, doedd gen i ddim ateb arall. Be rŵan? At be dwi’n glynu fel y peth nesa sy’n mynd i neud fi’n ddigon?

Fedra i ddim deud mod i’n llwyr dros y glwyd yn saff rhag y meddyliau ‘ma heddiw. Mae nhw’n dal i wthio’u ffordd i mewn bob hyn a hyn ond dwi’n llawer gwell am ddelio efo nhw rŵan. Mae siarad efo fy hun fel byswn i’n siarad efo ffrind yn helpu. Fyswn i byth bythoedd yn dweud wrth ffrind ei bod hi ddim yn ddigon a bod ‘na ddim pwynt iddi fodoli, felly pam mod i’n siarad fel hyn efo fy hun?

Yn fuan ar ôl y graddio yn 2016 ddes i ar draws sialens arlein. Sialens i siarad yn glên efo dy hun am 10 diwrnod. Roedd y blog yn honni trawsnewidiadau gwyrthiol o ganlyniad i’r sialens ‘ma. Doedd gen i ddim byd i’w golli ac roedd o’n rywbeth i mi anelu ato – dim ond 10 diwrnod, ddim yn gomitment mawr nadi? Roedd y 10 diwrnod yn anodd, a ffeindiais fy hun yn anghofio a slipio – lot. Ond efo ymarfer daeth 10 diwrnod yn 20, yn 40, yn 60, yn flwyddyn, ac mae meddwl yn positif am fy hun a phopeth bellach yn ‘default mode’ i fi. Dwi’n trio derbyn bod meddyliau annymunol yn mynd i godi o bryd i’w gilydd, ond mae’n bwysig cofio eu bod nhw’n mynd i basio hefyd. Un peth wnes i erioed ddychmygu oedd y byswn i’n ddiolchgar am y meddyliau ‘ma rhyw ddydd. Mi wnaethon nhw fy fforsio i newid rhywbeth, ac mae ‘mywyd i’n well rŵan nag oedd o cynt.

Mae’n swnio’n sili, ond dwi wir yn ddiolchgar am y meddyliau ‘ma rŵan. Do’n i ddim ar y pryd wrth gwrs, ond ma pethau wastad yn gliriach wrth edrych yn ôl, a dwi’n gredwr cryf nad oes modd cael y da heb y drwg. Os fysa bob dim yn dda trwy’r amser, sut fysa ni’n gallu deud?

Yn sgwennu hwn, do’n i ddim yn siŵr pa label i roi arno. Anxiety? Iselder? Hunan-gasineb? Ydi o’n haeddu label? Neu ydi o jyst yn chwalfa o emosiynau? Dwi dal ddim yn siŵr. Ond un peth dwi yn siŵr ohono ydi mod i ddim ar ben fy hun yn profi’r teimladau yma. Ac os ‘da chi’n uniaethu efo unrhyw ddarn o fy mwydro i, mi fedrwch chi fod yn saff nad ydych chi ar eich pen eich hun chwaith.

Elan Iâl