Deuparth gwella ei dderbyn…

Weda’i ddi fel hyn – ma’i ‘di bod yn gyfnod anodd. Yn gyfnod blydi anodd a heriol.

Ma crafangau iselder wedi gafael yn dynn yndda i ers rhai misoedd bellach o ganlyniad i berthynas yn torri lawr. Ma’r peth yn anodd i’w drafod, ond dwi’n teimlo bod angen siarad mas, a dangos ei bod hi’n oce i deimlo braidd yn rybish weithie.

Dwi’n berson hynod sensitif ac felly, pan ma ‘na rhywbeth gwael yn digwydd, dwi’n ei gweld hi’n anodd iawn ymdopi â’r peth ac felly ma fy iechyd meddwl yn dioddef yn ofnadwy yn sgil hynny hefyd.

Nath fy nghariad cheato arnai. A do, nath e lot o ddolur. Ma’n dal i neud lot o ddolur. Dwi’n aml yn cwestiynu ‘Pam fi?’, ‘Beth nes i o’i le i haeddu hyn?’, a dw’i ‘di teimlo straen ofnadwy yn dilyn yr hyn sy’ wedi digwydd imi.

Dw’i ‘di teimlo mor ddi-werth, mor isel, ac weithie, dw’i ddim am godi mas o’r gwely yn y bore. Ma rhoi dillad mlan yn y bore a chyrradd darlithoedd yn gyflawniad yn ei hun weithie, ond bob tro dwi’n neud hynny, dwi’n teimlo mor falch o fy hunan achos ma hyd yn oed camau bach fel ‘na yn gamau pwysig i mi.

Low point i fi wedd gorfod mynd i’r ysbyty oherwydd fy iechyd meddwl. Do’n i wir ddim yn meddwl y bysen i’n cyrraedd y pwynt hwnnw, ond mewn ffordd, nath e achub fi a gwneud imi sylweddoli ‘mod i’n gorfod dechre gofalu ar ôl fy hun a rhoi fy hun yn gyntaf o hynny ‘mlaen, a derbyn yr help wedd angen arna i.

Dwi’n gwella. Dw’i wir yn. Dwi’n credu mai’r hyn sydd bwysica wrth ymdopi ag iselder yw derbyn. Derbyn bo fi ddim am fod yn oce bob dydd, a derbyn y gorffennol, er mor anodd yw’r hyn sydd wedi digwydd imi. Dwi angen derbyn heddiw fel ag y mae, a derbyn bod fory yn ddiwrnod arall, newydd, llawn potensial. Dw’i angen derbyn ei bod yn iawn i gal cry bach, a siarad da rywun am y ffordd dwi’n teimlo. Felly, wrth edrych i’r dyfodol, dw’i am addo’r pethau canlynol i mi fy hun:

  1. Fy mod am rhoi fy lles fy hun yn gyntaf a gofalu am fy iechyd meddwl
  2. Defnyddio ymarfer corff fel ffordd o gadw’r meddwl yn iach (ma jyst mynd mas am wâc, hyd yn oed, yn neud byd o les!)
  3. Peidio â phoeni am y gorffennol- DERBYN ei fod wedi digwydd, a gwybod ‘mod i’n mynd i gryfhau o hyn ‘mlaen.
  4. Dysgu i fod yn garedig â mi fy hun a DERBYN nad yw pethau yn mynd i fod yn 100% drwy’r amser.
  5. Atgoffa fy hun bod fory yn ddiwrnod arall 🙂

Sioned