Crisialau a Lles
Wyddoch chi bod yna grisial ‘Clear Quartz’ ymhob ffôn symudol a chyfrifiadur?
Mae egni’r grisial yn hybu cyfathrebu effeithiol, ac yn caniatáu inni dderbyn a rhannu gwybodaeth yn glir.
Mae cyfathrebu yn un o’r pethau mwyaf pwysig yn y byd rŵan dydy?
Mae siarad a chyfathrebu mor bwysig….os yw’n dda neu ddrwg – mae rhannu pethau da yn codi calon pawb, ac os yw’n ddrwg – gall siarad a rhannu eich helpu chi.
“Problem wedi ei rannu yn broblem wedi ei haneru” …ryden ni i gyd yn hen gyfarwydd â’r dywediad.
Does dim ots beth rydech chi’n ei deimlo – mae angen cydnabod teimladau negyddol a phositif, mae’n bwysig eich bod chi’n teimlo’n oce wrth gario’r teimladau hyn gyda chi.
Gall crisialau helpu, maen nhw wedi fy helpu i ers pan yn blentyn.
Mae gan bob un crisial ei egni a’i rhinweddau ei hun. Gallwch ffocysu ar yr egni yna er mwyn darganfod y cymorth sydd ei angen arnoch chi bob dydd.
Mae crisialau’n dod o’r ddaear, ac o ganlyniad yn help mawr i ddaearu. Dychmygwch y teimlad braf yna pan rydech chi allan yn yr awyr agored – yng nghanol yr awyr iach, yng nghanol byd natur – mae cael crisial gyda chi yn rhoi’r egni a’r teimlad yna i chi ble bynnag rydech chi. Os ydech chi adref, fel mae nifer ohonom ar hyn o bryd, mae fel cael yr awyr agored yna yn eich cartref trwy’r amser.
Fy hoff grisial i erbyn hyn yw’r Blue Howlite – dwi’n cadw’r grisial ger y gwely er mwyn defnyddio’i egni i ymlacio, i anghofio’r holl bethau sy’n rasio o amgylch fy meddwl yn y nos. Pam yn y byd mae ein meddyliau ni’n llawn wrth fynd i’r gwely?!
Mae cael y crisial hwn gyda fi yn cynnig cymorth, mae’n fy helpu i ffocysu’r meddwl.
Rwy’n defnyddio’i egni ac yn dweud wrth fi fy hun; “Dwi’n chilled a heno dwi’n mynd i gael noson dda o gwsg”, mae’n gweithio.
Dyna beth chi’n gwneud gyda crisialau – dewis crisial sy’n dod â’r egni a’r cymorth sydd ei angen arnoch chi, penderfynu sut byddwch chi’n defnyddio’i egni i helpu eich meddwl a’ch lles bob dydd, ac yna ffocysu ar ei egni er mwyn gadael iddo eich cefnogi chi.
Wnes i sefydlu Wishing Well Crystals yn fy nghartref yn y Borth er mwyn rhannu’r egni positif gyda fy nghwsmeriaid.
Prynodd un o fy nghwsmeriaid grisial Amethyst ar gyfer ei merch, rhoddodd yr hyder iddi ddarganfod hapusrwydd yn ei bywyd bob dydd yn yr ysgol a rhoi’r hyder iddi siarad yn y gwasanaeth ysgol ac o flaen ei ffrindiau.
Dyna’n union sut dechreuodd fy mherthynas i gyda chrisialau. Roeddwn i’n 8 oed ac yn casáu gadael fy Mam i fynd i’r ysgol. Pan roddodd Mam ‘Rose Quartz’ i fi, roedd ei egni cariadus yn cynnig gymaint o gymorth i fi. Dechreuais fwynhau’r ysgol a theimlo’n hapus yno am y tro cyntaf. Roedd cael y grisial gyda fi fel cael Mam yno gyda fi.
Pan es i deithio yn fy arddegau, rhoddodd Mam grisial ‘Tigers Eye’ i fi, ac roedd ei egni yn fy nghadw i’n saff ac yn rhoi’r hyder i fi wynebau sialensiau heriol ar hyd y daith.
Dwi ddim yn dweud bod crisialau’n hudolus, ond mae cael crisial yn antur ac yn gallu bod o gymorth mawr er mwyn cael cefnogaeth, positifrwydd a hapusrwydd pan fyddwch ei angen. Byddwn ni i gyd yn wynebu heriau, ond bydd rhain yn mynd a dod.
Wrth daflu rhywbeth yn y ffynnon, byddwch yn dymuno am rywbeth gwell. Dyna’r syniad tu ôl i Wishing Well Crystals. Gobeithio bydd hyn o gymorth a cadwch yn bositif.